Newyddion: Awst 2019

Cilia: cell's long-overlooked antenna that can drive cancer — or stop it in its tracks

Dyma erthygl yn Saesneg gan Angharad Mostyn Wilkie sydd yn dilyn ymchwil PhD  yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2019

Prifysgol Bangor yn Taflu Goleuni ar Ferched mewn Cerddoriaeth

Eleni bydd Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor yn cynnal Ail Gynhadledd Ryngwladol ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth. Cynhelir y Gynhadledd ar 4 - 6 Medi, a bydd y Brifysgol yn croesawu siaradwyr a cherddorion blaenllaw, gan gynnwys ysgolheigion, ymarferwyr, cyllidwyr, darlledwyr, newyddiadurwyr a bobl broffesiynol o'r maes cerddorol o bob cwr o'r byd.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2019

Sut ydyn ni'n paratoi cricedwyr ar gyfer pwysau perfformio ar y cae?

Ym mis Gorffennaf 2019 enillodd tîm criced dynion Lloegr Gwpan y Byd, a dydd Sul 25 Awst 2019 arweiniodd Ben Stokes y tîm i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Awstralia yn 3edd Gêm Prawf y Lludw.

Mae rhaglenni hyfforddi unigol arloesol yn helpu Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) i baratoi eu chwaraewyr i wynebu'r pwysau o berfformio ar y cae, ac roeddent yn ffactor allweddol yn llwyddiant diweddar cwpan y byd tîm dynion Lloegr.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2019

How to become a great impostor

Dyma erthygl yn Saesneg gan Tim Holmes o’r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2019

A yw'r cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar faint o ymarfer corff rydych yn ei wneud?

Yn sgil y pryderon sy'n codi ynglŷn â dylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar ganfyddiadau pobl ifanc ynghylch y ddelwedd sydd ganddynt o'u cyrff eu hunain, mae gwyddonwyr chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor yn gofyn a yw'r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar ein cyfranogiad mewn ymarfer corff a sut, a phwy a beth yw'r ysgogwyr?

Yn rhyfedd ddigon, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi'i gyhoeddi ynglŷn ag effaith y cyfryngau cymdeithasol ar gyfranogiad mewn ymarfer corff, er bod nifer o ddylanwadwyr, hyfforddwyr a chyfranogwyr yn rhannu eu cynghorion a'u buddugoliaethau ar amrywiol lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol. A allai'r cyfryngau cymdeithasol fod yn ddylanwad cadarnhaol hefyd, ac annog rhai i gymryd rhan mewn ymarfer corff neu i ffurfio delwedd iachach o'u cyrff?

Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2019

What happens to biopsy tissue after it's tested? Your donated cells could be helping important cancer research

Dyma erthygl yn Saesneg gan Helena Robinson o’r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2019

£4.6m o Gyllid UE i Brifysgol Bangor ar gyfer ymchwil i effeithlonrwydd ynni carbon isel

Bydd canolfan gwyddor data newydd ar gyfer ynni gwyrdd yn cael ei chreu ym Mhrifysgol Bangor, gyda chymorth £4.6m o gyllid yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Bydd y Ganolfan Ynni Effeithiol a Chlyfar yn datblygu ymchwil ar y cyd rhwng sefydliadau a busnesau Cymru ac yn rhyngwladol. Bydd yn ymchwilio i'r dewisiadau ar gyfer defnyddio gwyddor data mawr i wella effeithlonrwydd systemau ynni carbon isel gan gynnwys ynni niwclear, ynni'r môr ac ynni gwynt ar y môr.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2019

Cydweithio newydd mewn ymchwil i sicrhau defnydd cynaliadwy o'r moroedd o amgylch Cymru

Mae Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Bangor yn dod ynghyd i helpu i sicrhau bod y moroedd o amgylch Cymru yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn amrywiol yn fiolegol.

Defnyddir llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog, i gasglu data o'r moroedd o amgylch Cymru, a fydd yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni ei gofynion o ran sicrhau tystiolaeth yn ymwneud â'r môr a physgodfeydd. 

Mae casglu tystiolaeth o'r moroedd o amgylch Cymru yn hanfodol er mwyn cynnal safonau da yn ein hamgylchedd môr. Mae hyn yn cynnwys datblygu targedau, dangosyddion, meini prawf asesu a rhaglenni monitro priodol i sicrhau data perthnasol.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2019

Being left-handed doesn't mean you are right-brained — so what does it mean?

There have been plenty of claims about what being left-handed means, and whether it changes the type of person someone is – but the truth is something of an enigma. Myths about handedness appear year after year, but researchers have yet to uncover all of what it means to be left-handed.

This article by Emma Karlsson, Postdoctoral researcher in Cognitive Neuroscience, Bangor University is republished from The Conversation under a Creative Commons license. Read the original article.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2019

Creadigaeth newydd i'w gwneud yn haws canlyn llwybr y chwyldro digidol nesaf

Mae'n bosib cyflwyno algorithm newydd i gydrannau sydd eisoes yn bod, er mwyn hwyluso dyfodiad y chwyldro digidol nesaf.

Disgwylir i ‘Ryngrwyd y Pethau’ a chysylltiadau ffonau symudol 5G chwyldroi'r ffordd yr ydym yn mynd ati i fyw ein bywydau a chynnal ein busnesau.

Fodd bynnag, mae rhai problemau i'w datrys cyn i 'Ryngrwyd y Pethau' allu gwneud y defnydd gorau o'n rhwydweithiau data cyfredol, a chyn i rwydweithiau 5G ddod yn realiti.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2019