Adnabod am y tro cyntaf proses yr ymennydd o baratoi i weithredu

Gan olrhain gweithgarwch yr ymennydd wrth i gyfranwyr baratoi ac yna symud eu bysedd o'u cof, dangoswyd fod yr ymennydd yn paratoi ar gyfer camau cymhleth yn y milieiliadau ymlaen llaw trwy 'stacio'r' camau i'w cymryd, yn y drefn gywir.Gan olrhain gweithgarwch yr ymennydd wrth i gyfranwyr baratoi ac yna symud eu bysedd o'u cof, dangoswyd fod yr ymennydd yn paratoi ar gyfer camau cymhleth yn y milieiliadau ymlaen llaw trwy 'stacio'r' camau i'w cymryd, yn y drefn gywir.

Rhagweld perfformiad medrus o'r paratoi

Mae Niwrowyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor a Choleg Prifysgol Llundain (UCL) wedi adnabod am y tro cyntaf y prosesau sy'n digwydd yn ein hymennydd milieiliadau cyn i ni wneud cyfres o symudiadau, sy'n hanfodol ar gyfer lleferydd, llawysgrifen, chwaraeon neu chwarae offeryn cerddorol. Gwnaethant hyn trwy fesur meysydd magnetig bychan iawn y tu allan i bennau'r cyfranwyr ac adnabod patrymau unigryw sy'n ffurfio pob dilyniant cyn iddo gael ei weithredu. Gwelsant y gwahaniaethau rhwng patrymau nerfol sy'n arwain at weithredu rhywbeth yn fwy medrus o gymharu â bod yn fwy tueddol o wneud camgymeriadau. 

Cyhoeddir yr ymchwil, a ariennir gan Wellcome Trust, yn Neuron, dyddiad cyhoeddi 7 Chwefror 2019. Yn dilyn ymchwil pellach, gallai'r wybodaeth newydd hon arwain at ddatblygu ymyriadau a fyddai'n cynorthwyo gydag adferiad ar ôl cael strôc neu wella bywyd pobl sy'n byw gydag atal dweud, dyspracsia neu gyflyrau eraill tebyg.

Eglurodd yr awdur arweiniol, Dr Katja Kornysheva, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, arwyddocâd y canfyddiadau:

"Gan ddefnyddio techneg anymwthiol sy'n mesur gweithgarwch parhaus yr ymennydd ar sail milieiliad-wrth-filieiliad, roeddem yn gallu olrhain gweithgarwch yr ymennydd wrth i gyfranwyr baratoi ac yna symud eu bysedd o'u cof. Dangosodd hyn fod yr ymennydd yn paratoi ar gyfer camau cymhleth yn y milieiliadau ymlaen llaw trwy 'stacio'r' camau i'w cymryd, yn y drefn gywir."

"Wrth adolygu ysgogiadau'r ymennydd, roeddem yn gallu gweld pan oedd cyfranwyr yn cynhyrchu'r dilyniannau'n gywir, heb unrhyw gamgymeriadau, roedd pob gweithgarwch wedi'u rhannu'n gyfnodau a'u trefnu cyn eu gweithredu. Fodd bynnag, pan roedd camgymeriadau'n digwydd, nid oedd 'ciwio'r' camau gweithredu wedi eu diffinio cystal fel camau ar wahân a neilltuol. Ymddengys po fwyaf roedd y 'ciw' o weithgareddau wedi eu clystyru a heb eu diffinio cystal, y mwyaf o gamgymeriadau roedd y cyfranwyr yn eu gwneud o ran cynhyrchu ac amseru dilyniant.

"Er mawr syndod, gwelwyd hefyd bod y patrwm hwn o baratoi yn adlewyrchu templed o safleoedd (1af, 2il, 3ydd ac yn y blaen) y gellir ei ailddefnyddio ar draws dilyniannau - fel droriau cwpwrdd y gallwch roi gwahanol wrthrychau ynddynt. Mae'n ffordd i'r ymennydd fod yn effeithlon a hyblyg, trwy ddarparu cynllun penodedig ar gyfer dilyniannau newydd a bod yn drefnus."

"Yn anffodus, gall anhrefn o ran rheoli dilyniant a rhuglder amharu'n ddifrifol ar fywyd bob dydd - ac ni ragwelir bod unrhyw driniaeth yn effeithiol. Yn y pen draw, gall yr ymchwil hwn arwain at ddatblygu datgodwyr 'fel mae'n digwydd' a fyddai'n rhoi adborth ar unwaith i'r defnyddiwr. Gallai hyn helpu i 'hyfforddi' eu hymennydd i greu'r cyflwr gorau i baratoi a goresgyn anawsterau fel atal dweud neu ddyspracsia. Rydym yn gobeithio y gall y ddealltwriaeth newydd arwain hefyd at ddatblygu rhyngwynebau cyfrifiadurol gwell i'r ymennydd, a ddefnyddir gan bobl sydd wedi eu cloi yn eu cyrff neu mae eu corff cyfan wedi'i barlysu.'

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019