Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Gall microbiomau perfedd iach ddylanwadu ar bysgod a ffermir

Mae'n debyg ein bod i gyd wedi clywed neu ddarllen rhywbeth am sut y gall microbiome perfedd iach effeithio ar ein hiechyd yn gyffredinol. Mae microbiome perfedd yr un mor hanfodol i anifeiliaid a physgod ag yw i bobl.

Mae gennym ficrobiomau mewn gwahanol rannau o'n cyrff, ar ein croen, er enghraifft. 

Mae microbiomau yn cynnwys cymunedau o wahanol ficro-organebau, firysau a germau ac mae'r cymunedau hyn yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd rydym yn gweithredu. Ceir hyd yn oed dystiolaeth i ddangos y gall biome perfedd gwael arwain at salwch neu afiechyd hyd yn oed.

Gan fod tua 45% o'r pysgod rydym yn eu prynu a'u bwyta'n fyd-eang yn dod o ffermydd pysgod, mae deall microbiome perfedd pysgod yn hanfodol i gyflenwi'r galw hwn.

Felly mae'r diwydiant dyframaeth neu ffermio pysgod yn gyrru'r maes ymchwil hwn er mwyn gwella iechyd pysgod a ffermir. Dylai hyn yn ei dro arwain at bysgod iachach ac felly, yn y pen draw, cynnyrch rhatach ac o ansawdd uwch i'r cwsmer.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Glasgow, Prifysgol Stirling a Phrifysgol Liverpool John Moores wedi edrych ar hyn ac wedi llunio casgliadau ymchwil, ac wedi tynnu sylw at fylchau gwybodaeth a meysydd defnyddiol i wneud ymchwil pellach.  Cyhoeddir eu papur yn y cyfnodolyn ymchwil Proceedings of the Royal Society B. (https://doi.org/10.1098/rspb.2020.0184)

Meddai Will Perry, prif awdur y papur a myfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae microbiome y perfedd yn hanfodol i dwf pysgod iach ac mae'n cyfrannu at ymladd yn erbyn afiechyd. Mae'r microbiome yn cyfrannu at allu'r pysgodyn i dreulio asidau brasterog a fitaminau.

Will Perry yn labordai'r Brifysgol.Will Perry yn labordai'r Brifysgol.Ond mae'r ffaith bod y pysgod yn cael eu magu ar fferm yn gallu effeithio ar ficrobiome eu perfedd, trwy newid eu diet neu gyflwyno pethau eraill i'w cadw'n iach, fel gwrthfiotigau a dwysedd poblogaeth uchel.

Yn union fel pobl, gall cwrs o wrthfiotigau gael effaith andwyol ar ficrobiome y perfedd a gwneud drwg i facteria da. Gall gor-ddefnydd o wrthfiotigau hefyd arwain at allu pysgod i wrthsefyll gwrthfiotigau, fel sy'n gallu digwydd ymhlith anifeiliaid a phobl.

Un ateb yw datblygu dewisiadau amgen i wrthfiotigau, gan gynnwys rhoi brechiadau, trwy chwistrellu'r pysgod, trochi'r pysgod yn y brechiad neu fwydo'r brechiad i'r pysgod.

Mae proteinau amgen hefyd yn cael eu defnyddio fwyfwy i fwydo pysgod, yn cynnwys rhai sy'n deillio o blanhigion a phryfed. Ond mae'r rhain yn cael effeithiau gwahanol ar y microbiome, a gall y manteision amrywio rhwng gwahanol rywogaethau pysgod, ac mae lle i wneud rhagor o ymchwil ar hyn."

Meddai Elle Lindsay, sy'n astudio PhD ym Mhrifysgol Glasgow:
“Mae'n faes ymchwil cyffrous a heriol, oherwydd gall cymaint o ffactorau effeithio ar ficrobiome y perfedd: gall hyd yn oed newid yn ystod datblygiad unigolyn. Mae'r rhan fwyaf o astudiaethau'n edrych ar effaith un ffactor, fel diet, ar ficrobiome y perfedd, felly mae wedi bod yn ddefnyddiol casglu'r holl ymchwil a chael mwy o ddealltwriaeth. Bellach gallwn ddechrau deall y berthynas gymhleth rhwng pysgod, microbiome y perfedd a'r amgylchedd.”

Meddai'r myfyriwr PhD Chris Brodie o Brifysgol Liverpool John Moores:
“Gall technoleg a thechnegau newydd a ddatblygwyd i gynyddu effeithlonrwydd ffermio pysgod newid trefn naturiol microbau sy'n byw y tu mewn i bysgod yn anfwriadol. Mae'r adolygiad hwn yn tynnu sylw at rai o'r effeithiau allweddol y mae dyframaeth yn eu cael ar iechyd pysgod, yn cynnwys y newidiadau mae'n eu cael ar ficrobiome y perfedd."

“Mae'n faes cymhleth iawn, meddai Will Perry,
“Ac er bod yr ymchwil wedi mynd yn bell, mae'n rhaid i ni ddysgu mwy am gyfansoddiad a swyddogaeth microbiome  perfedd pysgod. Mae hyn yn her oherwydd ei fod yn cynnwys cyfuniad o dechnegau moleciwlaidd blaengar."

Mae'r gwaith hwn yn dwyn ynghyd arbenigedd gan ymchwilwyr ar draws sawl brifysgol, gan gynnwys Labordy Geneteg Ecoleg Foleciwlaidd a Physgodfeydd Prifysgol Bangor, yr Institute of Biodiversity, Animal Health & Comparative Medicine ym Mhrifysgol Glasgow, yr Institute of Aquaculture ym Mhrifysgol Stirling a'r School of Biological and Environmental Sciences ym Mhrifysgol Liverpool John Moores. Cyhoeddwyd y gwaith gydag arian gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2020