Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Gallai Cymru arbed biliynau o bunnau'r flwyddyn trwy fuddsoddi mewn gweithlu iachach

Mae adroddiad newydd gan y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), Prifysgol Bangor wedi dwyn ynghyd dystiolaeth o'r dadleuon economaidd dros fuddsoddi yn iechyd a lles y gweithlu yng Nghymru.

Mae prif awdur yr adroddiad 'Wellness in work', Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards yn egluro:

“Rydym wedi dod ar draws tystiolaeth gref y gall cefnogi iechyd yn y gweithle a chael gweithlu amrywiol a chynhwysol roi hwb i economi Cymru. Fodd bynnag, mae economi Cymru ar ei cholled o hyd oherwydd materion iechyd y gellir eu hatal ac ymddygiadau afiach sy'n arwain at weithwyr yn absennol neu'n anghynhyrchiol yn y gwaith. Yn yr adroddiad hwn rydym yn tynnu ynghyd dystiolaeth am gost-effeithiolrwydd rhaglenni i wella ac amddiffyn iechyd a lles gweithwyr a'r elw posib drwy fuddsoddi mewn ymyriadau yn y gweithle. ”

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gost uchel colledion cynhyrchiant yng Nghymru oherwydd dibyniaeth ac arferion sy'n niweidio iechyd a'i effaith ar gyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys cost camddefnyddio alcohol sydd oddeutu £500 miliwn y flwyddyn. Mae caethiwed i gamblo yn costio rhwng £2 filiwn ac £8 miliwn yn flynyddol i Lywodraeth Cymru drwy refeniw treth a gollir oherwydd absenoldeb salwch, aneffeithiolrwydd a diweithdra. Dros flwyddyn, mae seibiannau ysmygu yn costio £2k i fusnesau yng Nghymru am bob ysmygwr mewn cynhyrchiant a gollir.

Gall ymyriadau yn y gweithle i gefnogi ffyniant ac atal afiechyd roi elw cadarnhaol ar fuddsoddiad i gyflogwyr yng Nghymru. Gall ymyriadau i atal poen cefn a phoen cyhyrol arall (e.e. yoga yn y gweithle) fod yn gost-effeithiol a gallant helpu cyflogwyr yng Nghymru i gadw eu gweithlu'n iach. Er enghraifft, am bob £1 sy'n cael ei wario ar ioga, amcangyfrifir bod £10 yn cael ei gynhyrchu mewn budd cymdeithasol, yn bennaf oherwydd cynnydd mewn cynhyrchiant yn y gwaith.

Mae iechyd meddwl a lles staff yn ffactor pwysig mewn cynhyrchiant yn y gweithle. Mae problemau iechyd meddwl fel pryder, iselder ysbryd a straen yn effeithio ar un o bob chwech o weithwyr yng Nghymru ac yn effeithio ar allu pobl i weithio. Mae hyn yn costio dros £1biliwn i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn oherwydd budd-daliadau diweithdra a cholli refeniw trethi.   Mae economi Cymru yn dioddef gyda bron i £5 biliwn yn cael ei golli bob blwyddyn. Mae busnesau'n wynebu costau uchel oherwydd absenoldeb ac aneffeithiolrwydd (y graddau y mae symptomau iechyd, cyflyrau ac afiechydon yn effeithio'n niweidiol ar gynhyrchiant unigolion sy'n dewis aros yn y gwaith) a all fod yn anfforddiadwy i lawer o fusnesau bach Cymru.

Wrth gasglu'r dystiolaeth economaidd ddiweddaraf ynghyd, mae'r adroddiad yn amcangyfrif bod cynhwysiad economaidd o fudd i'r economi, gyda phob un sy'n symud o ddiweithdra i waith cynaliadwy yn ychwanegu tua £10K y flwyddyn i'r economi leol, gan godi i £24K i Gymru gyfan. Gallai symud oddeutu 10% o bobl o ddiweithdra i waith cynaliadwy yng Nghymru gynhyrchu £2biliwn yn ychwanegol mewn cymdeithas dros y pum mlynedd nesaf.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw y gall polisïau gwaith sy'n gyfeillgar i deuluoedd gael effaith gadarnhaol ar weithwyr a chyflogwyr fel ei gilydd, gan fod gan lawer o weithwyr gyfrifoldebau gofalu am blant, rhieni ac aelodau eraill o'r teulu. Mae gan gyflogwyr sy'n gweithredu polisïau fel meithrinfeydd yn y gweithle gyfraddau llawer is o ymddiswyddiadau gwirfoddol ac absenoldeb. Mae egwyddorion cyd-gynhyrchu yn sail i'r syniad y dylai'r cyflogwr a'r gweithiwr rannu'r cyfrifoldeb am hybu gweithlu iach ledled Cymru.

Mae gan Gymru agenda bolisi gref sy'n tynnu sylw at yr angen am addysg a datblygu sgiliau priodol, gweithlu amrywiol a chynhwysol, a chanolbwyntio ar atal salwch er mwyn sicrhau economi a fydd yn cynhyrchu cyfoeth ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth da i genedlaethau'r dyfodol.

Yr Adroddiad newydd: 

https://cheme.bangor.ac.uk/documents/Wellness-Work-Welsh-Report.pdf
Atodiad Technegol (Saesneg):

https://cheme.bangor.ac.uk/documents/Technical-Appendix-Wellness-Work-Report-14-10-2019.docx

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019