Cyfleusterau Maes

Mae prif gyfleuster gwaith maes yr ysgol, Canolfan Ymchwil Henfaes, yn Abergwyngregyn- tua saith milltir o Fangor, ac mae’n ymestyn ar draws 252 o hectarau.  Mae Henfaes yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i astudio amgylcheddau amrywiol o dir ar lefel y môr i rai o'r tiroedd uchaf yn Eryri, i gyd ar yr un fferm.  Mae ardal iseldir 49 o hectarau yn cynnig cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir (gan gynnwys cnydau ar a phori da byw), coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth.   Mae ganddo hefyd draethlin helaeth lle gellir astudio prosesau morfeydd heli arfordirol. Yn Henfaes hefyd y ceir y Ganolfan Rheolaeth Bryndir ac Ucheldir (CHUM), sy'n cael ei rheoli fel uned defaid masnachol (dan gynllun amaeth-amgylchedd Tir Gofal ar hyn o bryd)(gweler isod).     Mae'r fferm yn dal i weithredu'n fasnachol, traddodiad sydd wedi parhau ym Mhrifysgol Bangor ers 1910. 

Cyfleusterau ymchwil yn Henfaes

Mae ein cyfleusterau maes yn cynnwys staff maes a labordai pwrpasol a chyfleusterau cyfarfod at ddibenion cyfnewid gwybodaeth. Noddir y gwaith a wneir ar hyn o bryd yn ein cyfleusterau maes gan amrywiaeth eang o randdeiliaid, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, DEFRA, BBSRC, NERC, yr Undeb Ewropeaidd a diwydiant.  Mae'r cyfleusterau ymchwil yn Henfaes yn cynnwys:

  • Dau labordy modern gydag offer cysylltiedig i baratoi samplau a gwneud rhai dadansoddiadau ar y safle;
  • Tai gwydr wedi eu rheoli gan gyfrifiaduron (gan gynnwys lysimedr 24 tanc);
  • Ystafelloedd twf;
  • Gorsaf dywydd awtomatig sy'n trosglwyddo data trwy delemetreg;
  • Plotiau arbrofol tymor hir ar gyfer tir pori, cnydau, amaeth-goedwigaeth, coedwigaeth a gwyddor pridd ar draws 40 hectar;
  • 16 o gromenni haul (a reolir gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg), a ddefnyddir ar hyn o bryd i wneud gwaith cysylltiedig ag oson.
  • Ystafell gyfarfod; a swyddfeydd gyda chyfleusterau cyfrifiadur sy'n gysylltiedig â Bangor trwy linell ffibr-optig bwrpasol.
  • Plotiau cnydau arddangos, a ddefnyddiwyd mewn gweithgareddau ymchwil a datblygu blaenorol a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a'r UE.
    • Ffurfiwyd Menterra (2004-2008) mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gwynedd i  ymchwilio i gnydau amgen a chynnyrch arloesol ar gyfer y sector amaethyddol yng Ngwynedd a'u datblygu.  Dyma rai o'r mentrau yr ymchwiliwyd iddynt: cynhyrchu perlysiau (ar gyfer coginio a meddygaeth), eirin gwyllt (yn cynnwys helyg y môr, llus ac eirin tagu) a grawnfwydydd amgen (megis haidd noeth). 
    • Datblygwyd Canolfan Defnydd Tir Amgen (2004-2011) o dan gyfarwyddiaeth y diweddar Athro Gareth Edwards-Jones mewn partneriaeth ag ADAS Cymru, Coleg Garddwriaeth Cymru Llaneurgain, Coed Cymru a Choleg Llysfasi.  Daeth CALU'n ganolbwynt trosglwyddo technoleg ar draws ystod o gynlluniau nad oes a wnelont â nwyddau, sef garddwriaeth, cnydau newydd a da byw, rheoli coedlannau fferm a chynnyrch biomas.

Mae Canolfan Ymchwil Henfaes yn gartref hefyd i arbrawf amaeth-goedwigaeth, Arbrawf Cyfoethogi Carbon (BangorFACE / BangorDIVERSE), treial tarddiad ynn, arbrofion biosiar a threialon rhywogaethau  porthiant.

Addysgu yn Henfaes

Ymysg y cyfleusterau yn Henfaes y mae darlithfeydd a labordai, a ddefnyddir i addysgu israddedigion ac ôl-raddedigion.  Mae'r gweithgareddau addysgu yn cynnwys ymarferion samplo a chasglu data gydag israddedigion, a gwaith project o dan arweiniad israddedigion, ac ôl-raddedigion hyfforddedig ac ymchwil. 

Canolfan Rheolaeth Bryndir ac Ucheldir (CHUM)

Crewyd CHUM yn 1999 ac mae'n cael ei rheoli fel uned ddefaid fasnachol.  Mae CHUM yn gweithio ar draws oddeutu 244 o hectarau ac ar hyn o bryd mae ganddi: 1,650 o famogiaid mynydd Cymreig pur, tua 20 o feheryn Mynydd Cymreig a 12 o ferlod mynydd Cymreig pedigri (Adran A). 

Nod CHUM yw ymgymryd â gweithgareddau amaethyddol masnachol gyda'r ymarfer amgylcheddol gorau, a gwneud elw hyfyw yr un pryd.  Mae darn sylweddol o'r ucheldir ar y fferm yn meddu ar statws ardal dan warchodaeth o dan ddeddfwriaeth y DU (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfa Natur Genedlaethol) ac o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE (Ardal Cadwraeth Arbennig).  Felly mae'r ardal ucheldir hon wedi cael ei rheoli ers 2000 o dan delerau cynllun amaeth-amgylchedd Cymru gyfan lefel uwch, Tir Gofal (bydd y cynllun yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2013).  Cyn hynny, penderfynwyd yn 1985 beidio â defnyddio gwrtaith synthetig ar yr ardal ucheldir.  Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i astudio effeithiau cynlluniau rheoli cyfradd stoc lai ar y llystyfiant a newid yn ôl o dir sydd wedi ei wella'n amaethyddol i statws heb wella ac wedi ei wella'n rhannol. 

Mae CHUM yn cynnwys amrywiaeth o laswelltiroedd yn ogystal â blociau coedwigoedd conifferaidd a choedwigoedd collddail sy’n ffinio â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber. Rydym hefyd yn gallu defnyddio’r mynydd sydd uwchben CHUM i wneud ymchwil ar fawn a rhostiroedd.

Fel aelod o Gymdeithas Porwyr Tir Comin Aber a Llanfairfechan, mae Prifysgol Bangor yn dal hawliau pori i 1850 o ddefaid ar ardaloedd tir comin Aber a Llanfairfechan ym mynyddoedd y Carneddau (sydd yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).    Mae'r tir comin yn cynnwys cynefinoedd mynyddig sensitif (uwchben y coedlin) a rhywogaethau o ddiddordeb cadwraeth i'r Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, ac mae darn sylweddol o'r tir wedi ei ddynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE.