Rhaglen Employ Autism i Graddedigion
Datblygwyd y rhaglen yma gan yr elusen Ambitious about Autism yn 2015, ac rydym yn gweithio’n agos gyda nhw â’n partner cyllid Santander Universities i gyflenwi cyfleoedd interniaeth i fyfyrwyr a graddedigion yma ym Mangor.
Rydym yn cysylltu â chyflogwyr a gweithio gyda nhw i greu interniaethau, sydd yn cael eu cyllido gan Prifysgol Bangor a Santander Universities. Mae’r interniaeth yn para am 280 awr, ond penderfyniad yr un sy’n ceisio am yr interniaeth ydi i drafod a chytuno gyda’r cyflogwr sawl awr yr wythnos maent ar gael i weithio.
Cyn i gyflogwr gallu hysbysebu unryw gyfle, sydd yn cael ei hysbysebu gan Dîm Cyflogadwyedd y Brifysgol, rhaid i hyd at pump aelod staff y cyflogwr fynychu dwy sesiwn hyfforddiant gyda Ambitious about Autism. Erbyn diwedd yr hyfforddiant, bydd y cwrs – ‘Understanding Autism in the Workplace’ – yn sicrhau eu bod medru addasu eu prosesau recriwtio, rhoi cefnogaeth addas i staff awtistig a mynychu adnoddau i gario datblygiad ac i gynnal eu staff wrth fynd ymlaen.
Mae nifer o’n staff yn y Tim Cyflogadwyedd hefyd wedi derbyn yr hyfforddiant; os oes ganddoch unryw gwestiynnau yna ebostiwch targetconnect@bangor.ac.uk gan rhoi ‘Employ Autism’ fel y pwnc a byddwn yn eich ateb yn uniongyrchol.
Meini Prawf Ymgeisio
Rhaid i chi fod wedi graddio neu'n astudio ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd ac wedi eich cofrestru yn awtistig er mwyn bod yn gymwys i gyflwyno cais ar gyfer y rhaglen hon.
I weld y cyfleoedd cyfredol, cliciwch ar y lincs islaw. Os oes ganddoch gwestiwn, yna plis gofynnwch i ni – ’da ni yma i’ch helpu.
Cynllunydd Cynnyrch
Mae Dr Zigs yn fusnes sydd yn ennill gwobrwyon ac yn tyfu, gan ddod a bybls enfawr a rhyfeddol i Ogledd Cymru a thu hwnt. Gennym egwyddion amgylcheddol, cymdeithasol, moesegol, a hwyl cryf ac yn awyddus i ddarganfod pobl tebyg i ymuno gyda ni. Fel Cynllunydd Cynnyrch Byddwch yn cynrychioli Dr Zigs, y bybls, y brand, ei gynnyrch a’i egwyddorion.
Paragyfreithiwr
Ydych chi eisiau gweithio i gwmni cyfreithiol dynamig sydd yn tyfu ac wedi ei gydnabod am ei agwedd arloesol? Mae Agri Advisor yn gwmni cyfreithiol arbenigol sydd yn cynghori ffermwyr, perchnogion tir a phobol sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig.
Ceidwad Llyfrau a Chynorthwy-ydd Gweinyddol
Rydym yn chwilio am berson sydd yn medru aml-dasgio, ac yn hunan-ysgogol i fod yn geidwad llyfrau a chynorthwy-ydd gweinyddol i gefnogi’n tîm. Mae’r swydd yma’n gofyn am sylw arbennig i fanylder, gallu i gyrraedd terfynau amser, a gyda sgiliau mathemategol threfnu gwych. Mae’n bwysig bod ganddoch lefel uchel o gonestrywdd a disgresiwn wrth ymdrin âgwybodaeth cyfrinachol, synnwyr digrifwch da ac, wrth gwrs, cariad at swigod!
3D Games Artist
Mae Goggleminds yn chwilio am Artist Gemau 3D i ymuno â’u tîm datblygu gemau. Dylai fod gan ymgeiswyr angerdd am gemau ac yn anelu i fod yn un o’r gwneuthurwyr gemau gorau yn y diwydiant.
Byddai’r interniaeth yma’n addas i fyfyrwyr yn eu blwyddyn diwethaf neu i raddedigion.
Ymchwilydd
Mae Goggleminds yn chwilio am ymchwilydd i ymuno â’u tîm. Dylai fod gan ymgeiswyr lygaid da am fanylder ac yn mwynhau troi symiau sylweddol o ddata a gwybodaeth i fformatiau sydd yn hawdd i’w ddeall.
Byddai’r interniaeth yma’n addas i fyfyrwyr yn eu blwyddyn diwethaf neu i raddedigion.
Cynllunydd Profiad Defnyddiwr (UX)/Defnyddiwr Rhyngwyneb (UI)
Mae Goggleminds yn chwilio am gynllunydd UX/UI i ymuno â’u tîm. Dylai fod gan ymgeiswyr angerdd am gemau ac yn anelu i fod yn un o’r gwneuthurwyr gemau gorau yn y diwydiant.
Byddai’r interniaeth yma’n addas i fyfyrwyr yn eu blwyddyn diwethaf neu i raddedigion.
Datblygwr Gweithgareddau
Mae Pai Language Learning yn chwilio am Ddatblygwr Gweithgareddau i ymuno â'u Hadran Ddatblygu. Os oes gennych angerdd dros ddatblygu ac eisiau gweithio gyda thîm sy'n anelu at adeiladu platfform arloesol i helpu pobl i ddysgu iaith, gallai'r lleoliad hwn fod o ddiddordeb i chi. Prif ddiben y rôl hon yw adeiladu gweithgareddau bach i helpu pobl i ddysgu geirfa a gramadeg a gymerwyd o sylfaen ddata Pai. Maen nhw'n chwilio am rywun i helpu i greu amrywiaeth o weithgareddau i ddysgu ieithoedd ar y platfform ar-lein.
Cynorthwy-ydd Marchnata
Mae Pai Language Learning yn chwilio am Gynorthwy-ydd Marchnata i ymuno â'u Hadran Farchnata. Os oes gennych angerdd dros farchnata ac eisiau gweithio gyda thîm sy'n anelu at adeiladu cyffro ar gyfer y platfform newydd ac arloesol hwn i bobl ddysgu iaith, gallai'r lleoliad hwn fod o ddiddordeb i chi. Prif ddiben y rôl hon yw creu templedi a chynnwys ar gyfer syniadau marchnata arfaethedig, ysgrifennu cynnwys ar gyfer erthyglau/blogiau, postio ar draws y cyfryngau cymdeithasol, creu e-byst i gwsmeriaid, a chofnodi dadansoddeg o gyfryngau cymdeithasol.
Crëwr Cwrs Iaith
Mae Pai Language Learning yn chwilio am Grëwr Cwrs Iaith i ymuno â'u Hadran Iaith. Os oes gennych angerdd dros ieithoedd neu addysg ac eisiau gweithio gyda thîm sy'n anelu at adeiladu platfform arloesol i helpu pobl i ddysgu iaith, gallai'r lleoliad hwn fod o ddiddordeb i chi. Prif ddiben y rôl hon yw adeiladu gweithgareddau bach i helpu pobl i ddysgu geirfa a gramadeg a gymerir o'u sylfaen ddata. Maent yn chwilio am rywun sydd ag angerdd dros ieithoedd a sgiliau ymchwil/adnabod patrymau gwych i helpu i adeiladu cyrsiau iaith.
Wedi'i ddiweddaru Awst 2022