Cymhwysedd ar gyfer Cefnogaeth Ariannol
Rhaid i gyfranogwyr y Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion fodloni un neu fwy o’r categorïau i fod yn gymwys i dderbyn cyllid cefnogaeth i raddedigion (Bwrsariaeth, Interniaeth gyflogedig)
Ni warantir cyllid, a bydd pob cais yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol y Rheolwr Project.
Rydych yn gymwys i dderbyn cyllid os ydych yn bodloni un neu fwy o'r meini prawf isod.
- Mae gen i anabledd
- Mae gen i gyflwr iechyd meddwl neu iechyd corfforol (mae hyn yn cynnwys cyflyrau fel Gorbryder ac Iselder)
- Mae gen i gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar fy ngallu i weithio (gallai hyn gynnwys cyflwr fel Epilepsi)
- Rwyf wedi ymddieithrio oddi wrth fy nheulu
- Rwyf wedi gadael gofal
- Mae gen i gyfrifoldebau gofalu
- Rydw i o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig
- Mae gen i statws ymfudwr
- Rydw i’n dod o gymdogaeth o gyfranogiad isel mewn addysg uwch (*1) (h.y. dau gwintel isaf POLAR 4)
- Rwy'n dod o deulu incwm isel (*2)
- Fi yw'r cyntaf yn fy nheulu i fynd i’r brifysgol
- Rwy'n gyn-filwr
- Rwyf o leiafrif crefyddol (*3)
- Rwy'n dod o’r Gymuned Deithwyr
- Ymuniaethu â LGBTQ +
Yn ogystal â bodloni'r meini prawf uchod, mae'n rhaid i chi hefyd fod yn hanu o’r Deyrnas Unedig, wedi graddio yn y tair blynedd diwethaf, 2020, 2021, 2022 ac yn meddu ar Radd Baglor.
Eithrir ôl-raddedigion, graddedigion sy’n hanu o’r Undeb Ewropeaidd, graddedigion tramor a graddedigion lle na fo’r wlad y maent yn hanu ohoni’n hysbys inni o’r ffynhonnell gyllid hon.
*1. Mae hyn yn golygu eich bod yn dod o ardal sydd â niferoedd isel o bobl ifanc yn mynd i brifysgol. Mewnosodwch eich cod post cartref yn y blwch ar y dudalen hon ar wefan yr Office for Students i wirio hynny: Check your postcode. Os yw eich cod post yn dangos 1 neu 2 yn y 'POLAR 4 Young participation quintile' rydych yn dod o ardal o gyfranogiad isel.
*2. Diffinnir incwm isel fel incwm blynyddol o 60% o dan y canolrif incwm. Yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2020, £29,900 oedd canolrif incwm aelwydydd yn y Deyrnas Unedig, yn seiliedig ar amcangyfrifon o Arolwg Cyllid Aelwydydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Felly £17,940 y flwyddyn yw 60% o dan £29,900.
*3. Yn y cyd-destun hwn, manylir ar grefydd a'r hyn a olygwn wrth leiafrif yn Religion harmonised standard Gwasanaethau Ystadegol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.