Newyddion: Awst 2014

Myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Bangor yn gweithio gyda menter gymdeithasol leol i hyrwyddo datblygu cynnyrch gwyrdd

Mae'r cwmni Tŷ Gwydr ym Mangor yn disgrifio ei hun fel canolfan adnoddau cymunedol annibynnol sy'n gweithio i sicrhau dyfodol cynaliadwy. Menter gymdeithasol leol yw Tŷ Gwydr Cyf a sefydlwyd 30 mlynedd yn ôl i godi ymwybyddiaeth am faterion gwyrdd a newid hinsawdd, ac fe'i disgrifiwyd fel 'y ganolfan rwydweithio ffurfiol gyntaf ym Mhrydain'. Mae gwefan masnachu newydd wedi'i datblygu o'r enw ‘eBuyGreen’ a ddatblygwyd ar y cyd rhwng Tŷ Gwydr a'r ddau gyfarwyddwr, Chris Walker a Xuejiao Li (Jojo).

Dyddiad cyhoeddi: 4 Awst 2014