Newyddion: Hydref 2016

Ffair Swyddi yn lwyddiant

Cynhaliwyd Ffair Swyddi lwyddiannus iawn yn ddiweddar (28/09/16) yn Neuadd PJ ym Mhrifysgol Bangor. Cafwyd dros 45 o stondinau gyda chyflogwyr graddedigion, cwmnïau lleol a gwasanaethau gwirfoddol yn bresennol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016

Myfyriwr o Fangor yn bwriadu cael gwared â phoen cefn

Wythnos Ymwybyddiaeth Gofal Cefn 3 - 8 Hydref 2016

Mae Ned Hartfiel, myfyriwr a raddiodd gyda PhD mewn Economeg Iechyd o Brifysgol Bangor, yn gobeithio lleihau poen cefn ac absenoldeb o’r gwaith yn y DU drwy ledaenu ei raglen cefn iach drwy gwmni sydd newydd ei sefydlu ganddo.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2016