Cadwch yr awen in lifo

Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal cyfres o un ar bymtheg o weithdai rhyngweithiol sy’n agored i bob myfyriwr ar draws pob lefel astudio. Darpara’r gyfres hon gyfle ymarferol i archwilio materion sy’n ganolog i’r broses o ysgrifennu’n academaidd. Mae’r gweithdai yn seiliedig ar dasgau, sy’n eich galluogi i ddysgu drwy wneud a chwestiynu. Mae’r gyfres yn cynnwys y themâu canlynol:

  • Awgrymiadau Gorau i Astudio'n Llwyddiannus
  • Ymdrin ag Astudio Academaidd
  • Rheoli eich amser
  • Gwneud nodiadau mewn darlithoedd a seminarau
  • Dulliau o ymdrin ag ysgrifennu academaidd
  • Dadansoddi cwestiynau traethawd
  • Beth ddylwn i ei ddarllen?
  • Cael y budd mwyaf o'ch darllen
  • Cynlluniau traethawd
  • Llên-ladrad, cyfeirio a dyfynnu
  • Aralleirio'n dda
  • Ysgrifennu beirniadol
  • Gwneud i'ch ysgrifennu lifo
  • Paragraffu'n dda
  • Prawfddarllen
  • Defnyddio sylwadau ar eich gwaith

Mae croeso i chi ddilyn y rhaglen weithdai gyflawn, neu ddewis o’r sesiynau hynny’n unig sy’n apelio atoch chi. Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim ac mae modd archebu eich lle ar-lein. Bydd lleoliad y gweithdai yn cael eu datgelu unwaith fyddwch chi wedi archebu eich lle. I gael amlinelliad llawn o’r rhaglen ac i archebu eich lle, ewch i: https://www.bangor.ac.uk/studyskills/workshops/rhaglen

 

 

 

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2019