Gweithdai i ddatblygu eich medrau cyflogadwyedd

Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cynnal gweithdai’n rheolaidd i roi cyfle i chi ddatblygu eich medrau cyflogadwyedd, ac i gael gwybodaeth werthfawr i’ch helpu i gymryd rheolaeth dros eich gyrfa yn y dyfodol! Wythnos nesaf byddwn yn cynnal gweithdai ar sut i greu CV, cyflwyno eich hun yn effeithiol a sesiwn i adeiladu eich hyder wrth symud ymlaen i fyd gwaith.

Edrychwch ar restr lawn y digwyddiadau a gweithdai am ragor o wybodaeth ac i gofrestru.
https://my.bangor.ac.uk/employability/digwyddiadau/

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2018