Ymweliad i Universidad de Cádiz, Spain

Bydd dau aelod o staff o'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Dewi Jones (Cynghorydd Gyrfa) a Lis Owen (Cydlynydd Blas ar Waith GO Wales) yn cyflwyno yn y 'II Euroployment Workshop' yn Universidad de Cádiz ar Ddydd Llun 16 Ebrill.

Nod y gweithdy yw rhannu arfer da a darparu cymhariaeth o'r sefyllfa cyflogaeth i raddedigion rhwng y tair gwlad sy'n cymryd rhan - Prifysgol Bangor (Cymru), Università Pisa (Yr Eidal) a Universidad de Cádiz (Sbaen).

Gwybodaeth bellach: http://www.uca.es/dgempleo/euroempleo

Dyddiad cyhoeddi: 13 Ebrill 2012