Proffiliau Myfyrwyr

Sophie Hughes (Morfa Bychan) – BA Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

“Mae’r dair blynedd yn Mangor wedi bod yn fwynhad pur. Roedd y bywyd cymdeithasol yn wych, er ei bod yn ddinas fechan i gymharu a dinasoedd prifysgolion eraill. I mi, roedd hynny’n well, gan fod potensial ar gyfer cymdeithas fwy clos, yn enwedig ymysg y myfyrwyr Cymraeg.

Y prif reswm dros ddewis Bangor oedd darpariaeth Cymraeg gwych, ac wrth gwrs, enw da’r Brifysgol. Yn ogystal, dim ond Bangor oedd yn cynnwys cwrs a oedd yn swnio mor apelgar a diddorol. Doeddwn i erioed wedi astudio fy mhwnc o’r blaen felly roedd yn risg dewis y cwrs – ond yn risg a dalodd! Mwynhais y cwrs yn drwyadl, yn arbennig yr amrywiaeth eang o bynciau, yr ymdeimlad clos o fewn y darlithoedd a seminarau, y berthynas agos a rhwydd rhwng myfyrwyr a darlithwyr, a’r gefnogaeth gadarn oedd ar gael unrhyw bryd.

 

Rwy’n gobeithio bwrw ymlaen i gwblhau gradd Meistr mewn Polisi a Chynllunio Iaith ym Mangor o fis Medi ymlaen. Er nad wyf yn mynd i fyd gwaith yn syth, rwy’n teimlo’n hollol barod petawn i’n dymuno gwneud hynny diolch i’r Ysgol. Rwy’n agored i unrhyw gyfleoedd bydd yn agor – efallai af yn syth i fyd gwaith wedyn, neu efallai wnâi gario mlaen a chwblhau PhD – pwy a wyr!

Credaf fod astudio ym Mangor wedi bod yn un o’r dewisiadau gorau wnes i erioed. Mae wedi fy ngalluogi i ddatblygu ac aeddfedu, a bellach rwy’n teimlo’n ddigon annibynnol i wynebu’r dyfodol. Rwy’n wirioneddol teimlo fy mod wedi datblygu ers dod i Fangor.”

 

Sioned Williams (Edern) – BA Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

“Roeddwn wrth fy modd gyda fy nghwrs, nid yn unig oherwydd ei fod yn gwbl drwy’r Gymraeg, ond hefyd roedd y dosbarthiadau yn tueddu i fod yn gymharol fach – o ganlyniad, roedd gwell cysylltiad gyda darlithwyr a mwy o gefnogaeth ar gael. Yn ychwanegol, roedd y pynciau a astudiwyd – yn ymestyn o troseddeg i gynllunio ieithyddol – yn ddiddorol, ac yn rhoi darlun clir o ddigwyddiadau Cymru cyfoes.

Roedd y cefnogaeth gan y darlithwyr yn ardderchog – roeddent wastad yn barod i helpu yn wyneb i wyneb a dros ebost. Rŵan, rwyf yn bwriadu dod nôl i Fangor i wneud MA mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol.”

 

Heledd Owen (Llansannan) - BA Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

“Tra’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor eginodd fy niddordeb yn y maes ymchwil, ac yn benodol ymchwil yn ymwneud â gwasanaethau iechyd. Wedi graddio, es ymlaen i gyflawni MA mewn Ymchwil Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol gan ganolbwyntio yn benodol ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Dewisiais y cyrsiau yn bennaf oherwydd fy niddordeb mewn ymchwil ond hefyd gan fy mod yn cael y cyfle i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r profiadau a’r sgiliau a gefais tra’n astudio’r cyrsiau uchod wedi bod yn hynod werthfawr i mi yn rhinwedd fy swydd fel Swyddog Cefnogi Ymchwil.

Rwyf bellach wedi bod yn gweithio i’r Ganolfan Ymchwil Gysylltiedig ag Iechyd ers dros 3 mlynedd. Gweithiais am ychydig dros flwyddyn i LLAIS, Gwasanaeth Cefnogi Isadeiledd Ymwybyddiaeth o Iaith (www.llais.org) ac rwyf bellach yn gweithio fel Swyddog Cefnogi Ymchwil ar sawl prosiect sydd yn edrych ar gryfhau’r defnydd o dystiolaeth yng nghynllunio a chyflwyno gwasanaethau iechyd a chyhoeddus.

Mae’r ffaith fy mod wedi cael addysg ymchwil drwy’r Gymraeg yn werthfawr iawn yn fy achos i gyda sawl prosiect, wrth gyd-weithio ag aelodau'r tîm ac ennyn ffydd a pherthynas cyd-weithio agos gyda cyfranogwyr prosiectau ymchwil. Rydym yn recriwtio cyfranogwyr ar draws Gogledd Cymru ac mae’r gallu i siarad Cymraeg i ennyn diddordeb pobl mewn ymchwil yn sgil hanfodol.”

 

Gethin Chapman - BA Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

“Rwyf wedi bod â diddordeb mewn Cymdeithaseg ers fy nyddiau yn yr ysgol uwchradd ac rwyf wastad wedi bod eisiau ymuno â’r heddlu.

Pan glywais am y cwrs Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, a’r datblygiad mewn troseddeg a’r bartneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, gwelais hwn fel y cyfle perffaith i astudio’r gorau o’r ddau fyd.

Pan oeddwn yn astudio am y radd, cefais gyfle gwych i ddysgu a deall pa sgiliau cyflogadwyedd a chymwysterau personol sydd eu hangen i gael gyrfa yn yr heddlu. Cefais gyfarwyddiadau hefyd sut i baratoi a llunio ffurflen gais broffesiynol ac awgrymiadau gwerthfawr wrth baratoi am gyfweliad. Roedd y cwrs yn caniatáu i mi weithio a dysgu am faterion cymdeithasegol modern a phwysig ac yn rhoi'r cyfle i mi weithio ar astudiaeth gymdeithasegol o’m dewis fy hun.

Rwy’n gwerthfawrogi’n eithriadol y cyfleoedd a gefais wrth astudio’r cwrs ym Mangor, a chefais gefnogaeth a chyngor adeiladol gan staff a darlithwyr ar lefel academaidd, personol ac ymarferol. Mi wnes i lawer o ffrindiau newydd a mwynhau pob munud o fy amser yn y Brifysgol ac mi fyddwn yn argymell y cwrs Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol i unrhyw un.”

 

Llŷr Peters (Pwllheli) - BA Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

“Gan fy mod eisiau gweithio fewn y sector gyhoeddus, unai fel swyddog o fewn yr Heddlu, Gwasanaeth Prawf neu’r Gwasanaethau Cymdeithasol, astudiais radd BA mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Roedd y gwaith academaidd yn caniatáu i mi astudio materion a oedd o ddiddordeb i mi, pynciau fel hanes, athroniaeth wleidyddol ac astudiaethau o gymdeithasau gwahanol. Yn ychwanegol i hyn, cefais y cyfle i astudio drwy’r iaith Gymraeg, rhywbeth a oedd, ac sydd dal yn bwysig iawn i mi.

Wrth edrych yn ôl, un peth oedd yn amlwg oedd agosatrwydd a chyfeillgarwch fy nghyd-fyfyrwyr a’r tiwtoriaid  a oedd wastad yn fodlon i helpu.

Wedi graddio, cymrais flwyddyn allan i wneud gwaith gwirfoddol a thaledig gan fagu profiad perthnasol i’m gradd. Ymhen blwyddyn cefais fy nerbyn gan y Gwasanaeth Prawf i dreulio cyfnod o ddwy flynedd fel  Swyddog Prawf o dan Hyfforddiant oedd yn golygu gweithio mewn ardaloedd gwahanol yng Ngogledd Cymru wrth gymhwyso.

Does dim dwywaith bod astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol wedi bod yn fuddiol iawn i mi a buaswn yn argymell unrhyw un sydd yn ystyried gweithio o fewn y sector gyhoeddus i fynd ati i ddilyn yr un trywydd a wnes i.”

 

Siân Eleri Roberts (Betws y Coed) - BA Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

“Ers i mi raddio gyda gradd BA mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, rwyf bellach yn gweithio fel Therapydd Galwedigaethol yng Nghyngor Gwynedd. Gwnaeth astudio Cymdeithaseg drwy gyfrwng y Gymraeg fy helpu yn arw ar gyfer cael lle ar y cwrs Diploma ôl-radd i astudio Therapi Galwedigaethol. Roedd y ffaith i mi astudio yn y Gymraeg ynghyd â ffactorau eraill yn fy rhoi yn syth ar y rhestr fer ar gyfer cael cyfweliad.

Gan fy mod yn gweithio i’r sector gyhoeddus erbyn hyn, mae ysgrifennu adroddiadau ac asesiadau yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol. Credaf yn gryf bod cwblhau dwy radd drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod o gymorth sylweddol i mi fedru trafod achosion a chwblhau unrhyw waith papur yn Gymraeg neu yn y Saesneg yn hyderus.”

 

Meinir Hughes (Ceredigion) - BA Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

“Roeddwn yn awyddus i astudio nid yn unig y Gymraeg fel pwnc, ond roeddwn â’m bryd ar astudio pwnc arall yn ogystal. Penderfynais felly ar ddilyn llwybr cyd-anrhydedd Cymraeg a Chymdeithaseg. Wrth i mi astudio’r ddau bwnc, roeddwn fel petawn yn cael y gorau o’r ddau fyd ac roedd cael adnabod y darlithwyr o fewn y ddwy adran gartrefol yn brofiad braf. Gan nad oeddwn wedi astudio Cymdeithaseg cyn mynychu’r Brifysgol, bu’r darlithoedd yn her newydd i mi ond yn brofiad diddorol ac roedd darlithwyr a staff yr adran yn barod i’m helpu ar unrhyw adeg.

             

Yn dilyn graddio, cwblheais y cwrs Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol gan gymhwyso yn Weithiwr Cymdeithasol. Yn sicr, bu’r ffaith i mi ddilyn y cwrs gradd Cymdeithaseg a Pholisi drwy’r Gymraeg yn sail arbennig i mi ac yn ffactor amlwg yn fy newis i ddilyn gyrfa yn y maes hwn. Yn ffodus, bu i mi dderbyn swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol yng Ngwynedd yn dilyn cwblhau’r cwrs Gwaith Cymdeithasol ac rwyf yn parhau i weithio o fewn y gwasanaeth aml-asiantaethol sydd yn cefnogi plant anabl a’u teuluoedd sef DERWEN – Tîm Integredig Plant Anabl. Mae’n anodd coelio fy mod yn fy swydd ers saith mlynedd bellach ond yn sicr, bu’r llwybr uchod yn gyfrwng perthnasol a defnyddiol iawn i mi.”

 

Einir Evans (Caernarfon) - BA Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

“Mi wnes i ddewis astudio gradd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol oherwydd roedd yn rhoi cyfle i mi drin a thrafod pynciau cymdeithasol wrth ganolbwyntio ar Gymru a materion Cymreig. Ni chefais fy siomi.

Rwyf bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd fel Swyddog Cefnogi Myfyrwyr a rwyf wirioneddol yn credu bod cael gradd trwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod o fantais i mi yn ystod fy ngyrfa. Mae cael aelod o staff sy’n gallu dod i’r afael â pholisïau, sydd yn aml yn gallu bod yn rhai cymhleth, a chyfathrebu gyda phobl yn hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg o fudd mawr i unrhyw sefydliad yng Nghymru. Rwyf hefyd yn astudio ar gyfer gradd Meistr rhan-amser ar hyn o bryd.

Yn sicr, mae fy ngradd wedi rhoi sylfaen gwych i fy ngyrfa ac i fynd ymlaen i astudio ymhellach.”

 

Heledd Medi Williams (Y Bala) - BA Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

"Dewisais Bangor oherwydd ei fod yn cynnig mwy o gyfleusterau ar gyfer astudiaethau cyfrwng Cymraeg nag unrhyw brifysgol arall, ac yn fy ngalluogi i fynychu darlithoedd a chyflwyno fy ngwaith trwy gyfrwng y Gymraeg.


Roedd y cwrs yn edrych ar wahanol agweddau o gymdeithas a'r polisïau sydd eu hangen i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol.  Roedd yr ystod eang o fodiwlau ar gael yn golygu y gallwn gadw fy opsiynau ar agor, a oedd yn ddefnyddiol o ystyried nad oeddwn i wedi setlo ar lwybr gyrfa pendant cyn dod i'r brifysgol.


Yn ystod fy astudiaethau roeddwn yn ddigon ffodus i dreulio chwe wythnos ar leoliad gwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru. Cefais y cyfle i dreulio amser mewn gwahanol adrannau, a bu’r profiad yn arbennig o fuddiol ar gyfer prosiect oeddwn yn gweithio arno ar y pryd. Un agwedd arbennig o gofiadwy oedd ymweliad â Charchar Altcourse yn Lerpwl - rhywbeth nai i byth anghofio.”


Y cam nesaf i mi yw symud ymlaen i astudio MA mewn Gwaith Cymdeithasol yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, ac hyffordi fel Gweithiwr Cymdeithasol."