Ysgoloriaethau, Efrydiaethau a Bwrsariaethau

Mae’r ysgoloriaethau, efrydiaethau a bwrsariaethau yn cael eu hariannu gan y Brifysgol a gan yr ysgolion academaidd unigol. Am wybodaeth ynglŷn â bwrsariaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ôl-raddedigion ewch i'r tab 'Allanol' isod.

Mae'r Ysgol/Brifysgol yn cynnig y gwobrau canlynol i fyfyrwyr sy'n gwneud cais i astudio ar unrhyw raglen ôl-radd hyfforddedig:

Ymgeiswyr UE/Cartref 

PhD DTP ESRC Cymru

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Cyllid Dosbarth Cyntaf – Grant Ragoriaeth (Myfyrwyr Cartref/UE yn unig)  

Bydd yr Ysgol yn gwobrwyo rhagoriaeth academaidd pan fydd myfyrwyr yn dechrau yn y flwyddyn academaidd 2019/20.  Rhoddir gostyngiad o £1,000 yn y ffioedd i fyfyrwyr Cartref/UE sy’n talu eu hunain ac sydd wedi cael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf (neu gyfwerth).

Y Broses Ymgeisio - Ni fydd angen i fyfyrwyr wneud cais am y wobr hon. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni dderbyn cais am gwrs ôl-radd a addysgir (MSc neu MRes) erbyn y 1af Fehefin yn ystod y flwyddyn y cytunwyd arno er mwyn sicrhau bod gwobr Rhagoriaeth i fyfyrwyr.

Os yw myfyriwr yn llwyddo i ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, byddant yn anfonebu am y ffi yn llai na'r gostyngiad o £ 1,000. Rhaid i ymgeiswyr hysbysu'r Gofrestrfa Academaidd / Derbyn canlyniadau dilysedig erbyn 1 Awst (yn y flwyddyn mynediad) ar y diweddaraf.

Disgownt Teyrngarwch Graddedigion

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Cynorthwywyr Graddedig

Gall holl ymgeiswyr ôl-radd hyfforddedig (Cartref/UE/Rhyngwladol, llawn-amser a rhan-amser) wneud cais i ddod yn Gynorthwywyr Graddedig. Mae Cynorthwywyr Graddedig yn gweithio gyda staff academaidd am hyd at 60 awr bob blwyddyn academaidd mewn amrywiaeth o weithgareddau addysgu, dysgu ac asesu i gefnogi dysgu myfyrwyr israddedig.   Telir tâl am y gwaith yn fisol (tua £55 y mis). 

Pam y dylech wneud cais i fod yn Gynorthwywr?  

Mae rhaglenni ôl-radd SHES yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr yn y maes o’u dewis, yn ogystal ag ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy, a dull gweithredu annibynnol sy’n eu paratoi’n dda at yr yrfa o’u dewis. Mae swyddi cynorthwywyr graddedig yn galluogi myfyrwyr i roi eu dysgu ar waith drwy gefnogi gweithgareddau’r ysgol. Mae o gymorth i ddatblygu eu sgiliau cefnogi personol a bydd yn cyfoethogi eu CVs gyda phrofiad uniongyrchol a fydd o fudd iddynt gael swyddi yn y dyfodol. 

Mae Cynorthwywyr Graddedig o’r Ysgol wedi mynd ymlaen i weithio fel darlithwyr a chynorthwywyr ymchwil mewn AB/AU, athrawon, ffisiotherapyddion ac arbenigwyr ymarferion adferiad, hyfforddwyr/tywyswyr awyr agored a pharafeddygon. 

Beth a ddisgwylir gan Gynorthwywr? 

Mae’r gweithgareddau y bydd Cynorthwywyr Graddedig yn ymwneud â hwy yn cynnwys cefnogi darlithoedd, arwain seminarau, rhoi cefnogaeth diwtoraidd, arddangos mewn dosbarthiadau ymarferol, marcio asesiadau israddedigion, goruchwylio mewn arholiadau ailsefyll i israddedigion. 

Disgwylir i Gynorthwywyr Graddedig baratoi at bob sesiwn drwy ymgyfarwyddo â’r gwaith darllen craidd a sicrhau bod ganddynt y gallu i osod y deunydd o fewn cyd-destun ehangach y modiwl yn gyffredinol, a’r ddarlith sy’n gysylltiedig â’r seminar yn neilltuol.  I’r diben hwn gall dod i’r darlithoedd fod yn hynod fuddiol, er na thelir am hynny ac nad yw’n orfodol. 

Proses Ymgeisio – Dylai ymgeiswyr anfon Curriculum Vitae a llythyr eglurhaol, yn nodi eu haddasrwydd i weithredu fel Cynorthwywr, at: Recriwtio a Derbyniadau (Ôl-radd Hyfforddedig) yn  mscsport@bangor.ac.uk erbyn  y dyddiad cau o 15 Gorffennaf yn y flwyddyn y maent yn dymuno dechrau eu rhaglen ôl-radd hyfforddedig.                                    

Dylai ymgeiswyr hefyd ddarparu dau eirda ysgrifenedig erbyn yr un dyddiad cau.  Lle bo’n berthnasol, dylai un o’r geirdaon fod gan gyflogwr diweddar; yn achos ymgeisydd sydd heb gael unrhyw brofiad gwaith, mae dau eirda academaidd yn dderbyniol.  

Mae’r drefn ddewis yn un gystadleuol a gall gynnwys cyfweliad.  Byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus yn ystod Awst y flwyddyn y maent yn dymuno dechrau.

Ysgoloriaethau Ôl-raddedig Price Davies

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Bydd gwerth yr ysgoloriaeth yr un fath ag Efrydiaeth Ôl-raddedig y Brifysgol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael. Rhaid i’r ymgeisydd ddilyn cynllun astudio am radd ôl-raddedig ymchwil yn y Celfyddydau neu’r Gwyddorau ym Mhrifysgol Bangor.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Awst 2019.

Sylwer: ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2020 ymlaen, dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 1 Mehefin 2020 fan bellaf.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ffurflen gais.

Thomas Ellis Memorial Fund

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £ 1,500 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn iaith, llenyddiaeth, hanes a hynafiaethau Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2019.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams yn galluogi ymchwil i Hanes Cymru, gan gynnwys deddfau Cymreig ac agweddau economaidd bywyd Cymreig. Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £ 7,000 i gefnogi graddedigion Hanes, Cyfraith ac Economeg dalentog sydd â diddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgolion Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2019.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £ 2,000 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn Newyddiaduraeth neu Faterion Rhyngwladol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2019.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ysgoloriaeth Ymchwil Cyfrwng Cymraeg: Dwyieithrwydd

Math Cymhwyster: PhD

Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau: 07 Mehefin 2019

Swm cyllid: Mae’r efrydiaeth yn cynnwys cost lawn ffioedd dysgu ynghyd â thâl cynnal gwerth c.£15,000 y flwyddyn, am dair blynedd yr efrydiaeth.

Dyddiad Dechrau: 01 Hydref 2019

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Dwyieithrwydd. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor. Disgwylir i’r traethawd doethurol gael ei baratoi a’i gyflwyno yn y Gymraeg. Mae’r ysgoloriaeth ar gael am gyfnod o dair blynedd ar gyfer ymchwil yn arwain at ddoethuriaeth. Bydd disgwyl i’r myfyriwr llwyddiannus hefyd wneud peth gwaith dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth fel un o amodau’r Ysgoloriaeth.

Lle gallaf i gael hyd i fwy o wybodaeth?

Am fanylion llawn am yr ysgoloriaeth dilynwch y cyswllt yma

Dylid cyfeirio ymholiadau am y project at: Dr Thora Tenbrink (t.tenbrink@bangor.ac.uk / 01248 382263).

Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad gyrfaol merched mewn gwyddoniaeth ac am y rheswm hwn mae Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth y Brifysgol yn cefnogi graddedigion sy'n ferched i barhau gyda'u hastudiaethau. Bydd mwy o wybodaeth am yr Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth 19/20 ar gael yn fuan.

Cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Am fwy o wybodaeth am y cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol cliciwch yma.

Disgownt teyrngarwch i raddedigion

Ysgoloriaeth Ymchwil Cyfrwng Cymraeg: Defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Seicoleg Newid Ymddygiad a Chynllunio Iaith. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mwy o wybodaeth...

Bwrsariaeth Postgrad Solutions

Mae Postgrad Solutions Cyf yn cynnig tri-ar-ddeg Bwrsariaeth ôl-radd, werth £500 yr un. Mwy o wybodaeth...

Bwrsariaeth Mynediad ôl-raddedig

Gall myfyrwyr DU (gan eithrio myfyrwyr o Gymru*) fod yn gymwys i dderbyn Bwrsariaeth Mynediad Ôl-radd os oeddent yn derbyn un o’r canlynol tra’n fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn academiaeth 2018/19 neu’n ddi-waith cyn cychwyn cwrs ol-radd yn Brifysgol Bangor.

  • Grant Cynhaliaeth
  • Benthyciad Cynhaliaeth
  • Bwrsariaeth Foyer
  • Bwrsariaeth i Bobl sy’n Gadael Gofal
  • Gymhorthdal Incwm / Lwfans Ceisio Gwaith,/ Credyd Cynhwysol

Rhaid i fyfyrwyr allu dangos tystiolaeth eu bod wedi derbyn y grantiau, bwrsariaethau neu fudd-daliadau hyn.

Dyfernir bwrsariaeth o £500 i:

  • fyfyrwyr oedd yn derbyn cyllid myfyrwyr mwyaf posib pan oeddent yn israddedigion yn ystod 2018/19.
  • fyfyrwyr oedd yn ddi-waith yn union cyn cychwyn eu cwrs ôl-radd

Dyfernir bwrsari o £250 i:

  • fyfyrwyr oedd yn israddedigion yn 2018/19 ac yn derbyn cyllid myfyrywyr rhannol.

I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol.

*Mae gan fyfyriwr o Gymru hawl i grant o leiaf £1,000 gan Lywodraeth Cymru

Bwrsariaethau Ehangu Mynediad ôl-radd

Mae’r bwrsariaethau yma wedi eu hanelu’n benodol at ehangu mynediad i gyrsiau Meistr ôl-radd llawn a rhan-amser. Am fwy o fanylion, cliciwch yma.

Ysgoloriaethau Cydraddoldeb Rhywiol

Mae Prifysgol Bangor yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau Athena SWAN ac felly wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng y rhywiau, ac i greu a hyrwyddo diwylliant cynhwysol i staff a myfyrwyr ar bob lefel. Diben ysgoloriaethau Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau y Brifysgol yw cefnogi myfyrwyr sy'n graddio i barhau â'u hastudiaethau ym Mangor - yn enwedig mewn meysydd lle mae niferoedd ein myfyrwyr yn dangos tangynrychiolaeth o ferched neu ddynion ar lefel ôl-raddedig mewn rhai meysydd. Ysgoloriaethau yw'r rhain ar gyfer gradd meistr (hyfforddedig neu drwy ymchwil) mewn unrhyw ddisgyblaeth. Dyfernir un ysgoloriaeth i bob Coleg.

Beth mae'n ei gynnwys?

Telir ffioedd dysgu am gwrs Meistr ôl-radd hyfforddedig neu ymchwil un flwyddyn neu am ddwy flynedd os yw'n astudio'n rhan amser.

Ewch i dudalennau Athena Swan am fwy o wybodaeth. Dyddiad cau ceisiadau ydi dydd Gwener 28ain Mehefin 2019. Dylid danfon ceisiadau i sylw Lindsey Graham.

Addysgedau AALl

Fel rheol nid yw awdurdodau lleol yn cynnig cefnogaeth ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, ond mae rhai yn rhoi ystyriaeth i rai cyrsiau penodol, fel cyrsiau TAR.

Mae’n eithaf peth i gysylltu â’ch awdurdod addysg lleol yn gynnar yn y flwyddyn i holi beth a fyddent yn ei gyllido. Byddai gennych fwy o siawns i gael cyllid os yw eich cwrs yn un galwedigaethol ond bydd rhaid i chi gyflwyno achos cryf i gael addysged.

Cysylltiadau Defnyddiol

Efallai y bydd y cysylltiadau yma yn ddefnyddiol i chi ymchwilio sut i gael cyllid ar gyfer eich cwrs: