Newyddion Diweddaraf

Ymarfer ynddo’i hun ddim yn ddigon i ferched golli pwysau

Mae ymchwil newydd o Brifysgol Bangor wedi dangos nad yw ymarfer corff ynddo’i hun yn  arwain at i  ferched golli pwysau.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017

Beth sydd yn achosi i redwyr marathon a chwaraeon eithafol eraill ddal annwyd?

Bydd rhai o’r rhedwyr ym Marathon Eryri eleni (28 Hydref), sy’n cael ei ddisgrifio fel un o marathonau caletaf yn Ewrop, yn helpu ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor gyda’u hymchwil.

Mae ffisiolegwyr ymarfer corff yn yr Ysgol yn awyddus i ddysgu pam fod rhai rhedwyr i’w gweld yn fwy tebygol o fynd yn sâl neu deimlo’n wael ar ôl rhedeg marathon neu ar ôl cymryd rhan mewn gweithgaredd ymarfer corff eithafol, tra bo rhedwyr eraill yn aros yn iach.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2017

A all seicoleg helpu chwaraewyr academi pêl-droed i hybu eu potensial i'r eithaf?

Mae seicolegwyr chwaraeon o Brifysgol Bangor wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Manchester City i adnabod a deall y nodweddion seicolegol sy'n helpu chwaraewyr ifanc academi i gyflawni eu potensial.

Dros y pedair blynedd nesaf dilynir hynt chwaraewyr academi Manchester City fel rhan o'r project ymchwil unigryw hwn.  Mae hyfforddwyr City eisoes wedi nodi'r nodweddion seicolegol y maent hwy'n credu sy'n allweddol i ddatblygu doniau, a chaiff y rhain eu monitro a'u hasesu'n rheolaidd.  Caiff y graddau y maent yn darogan gwelliannau yn lefelau perfformiad yn ystod yr amser hwn ei gloriannu.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2017

Want to develop 'grit'? Take up surfing

Dyma erthygl yn Saesneg gan Rhi Willmot, myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017

Confidence can be a bad thing – here's why

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stuart Beattie, darlithydd Seicoleg  a’r Athro Tim Woodman, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2017