Straeon Gyrfaoedd

Haf Owen

Swydd cyn gradd – diolch i fodiwlau Cymraeg

“Oni bai ’mod i wedi dilyn rhai o fodiwlau’r cwrs yn Gymraeg, dwi ddim yn meddwl y byddwn i wedi cael y swydd.”

 

Mwy am Haf...

Rai wythnosau cyn graddio o Brifysgol Bangor, roedd Haf Owen eisoes wedi dechrau ar ei swydd lawn amser gynta’. Ac mae’n sicr mai ei chwrs gradd oedd yn gyfrifol am ei llwyddiant yn cael gwaith ar ochr gyllid Cyngor Sir Gwynedd.

“Oni bai ’mod i wedi dilyn rhai o fodiwlau’r cwrs yn Gymraeg, dwi ddim yn meddwl y byddwn i wedi cael y swydd,” meddai.

Roedd Haf yn astudio gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor a doedd hi erioed wedi breuddwydio y byddai’n cael cystal swydd mor agos i gartre’, yn defnyddio’i mamiaith.

“Mae Cyfrifeg yn faes mor eang ac roeddwn i’n barod i weithio pa le bynnag, ond dwi’n teimlo’n lwcus iawn i gael y swydd hon,” meddai’r ferch o Nebo ger Caernarfon.

Mae Haf bellach yn Gymhorthydd Pensiynau i Gyngor Gwynedd, yn gweithio ar brosiect sy’n gwirio gwybodaeth yn erbyn cofnodion Cyllid a Thollau EM.

“Mae o’n waith difyr iawn, a dw i’n meddwl fod astudio rhan o’r cwrs a bod yn siaradwr Cymraeg wedi bod yn fantais fawr yn fy nghyfweliad – mae hynny’n amlwg yn bwysig i Gyngor Gwynedd,” meddai.

Ac yn ôl un o ddarlithwyr yr Ysgol Fusnes a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Sara Closs-Davies, mae profiad Haf yn rhoi neges bositif i fyfyrwyr eraill.

“Mae astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn galluogi pobl ifanc broffesiynol i allu gweithredu a chyfathrebu’n ddwyieithog.

“Mae yno farchnad yn y sector breifat i allu cynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae hefyd yn sicrhau parhad mewn gwasanaethau cyhoeddus yn y Gymraeg.

“Mae hyn yn adlewyrchu’r pwysigrwydd o gael addysg cyfrwng Cymraeg sy’n rhoi sylfaen ardderchog i bobl ifanc ar gyfer gyrfa ble mae cyflogau swyddi dwyieithog yn uwch ar gyfartaledd,” meddai wedyn.

Erin Bryn

O Fangor i Gaerdydd gyda’r BBC

“Dw i’n meddwl fod cael gradd yn y Gymraeg a bod yn ddwyieithog wedi bod yn fantais fawr imi hefyd wrth gael y swydd.”

 

Mwy am Erin...

Roedd cyfnod o brofiad gwaith trwy Brifysgol Bangor y allweddol wrth helpu Erin Bryn i gael swydd gyda’r BBC.

Roedd y profiad hwnnw – a’r ffaith fod ganddi radd Gymraeg - yn help mawr wrth gael gwaith, meddai’r ferch o Fethesda sydd bellach yn gynorthwy-ydd darlledu ar raglenni newyddion Cymraeg a Saesneg y BBC yng Nghaerdydd.

“Doeddwn i ddim wedi meddwl y byddwn i’n gweithio ym maes darlledu,” meddai Erin Bryn. “Ond dw i wrth fy modd achos dydy’r newyddion byth yn stopio!

“Mae’r gwaith yn cynnwys helpu i baratoi rhaglenni ar gyfer yr awyr, ar y teledu a’r radio.

“Yn ystod y profiad gwaith mi ges i’r cyfle i weithio efo cyflwynwyr a chynhyrchwyr a gweld sut mae pethau’n gweithio yno a sylweddoli y byddwn i’n hoffi gwneud y math yna o waith.“Dw i’n meddwl fod cael gradd yn y Gymraeg a bod yn ddwyieithog wedi bod yn fantais fawr imi hefyd wrth gael y swydd.”

Mirain Llŷn

Cymraeg - amrywiaeth a meithrin sgiliau

“Mae’r hyn ddysgais i yn ystod fy ngradd yn dod i mewn i ’ngwaith i bob dydd.”

 

 

Mwy am Mirian...

Wrth ei gwaith o ddydd i ddydd mae disgwyl i Mirain Llŷn allu cyfathrebu’n dda trwy ddiweddaru’r wybodaeth ar wefan Cyngor Sir Gwynedd.

Roedd holl amrywiaeth ei chwrs gradd yn yr Ysgol Gymraeg yn fantais anferth, meddai.

“Mae’r wefan yna ar gyfer ystod eang o bobol ac mae’n bwysig peidio â defnyddio iaith rhy ffurfiol, neu dydy pobol ddim yn mynd i ddeall.

Mae angen defnyddio iaith bob dydd, ond iaith safonol.”

A hithau bellach yn Gymhorthydd Gwybodaeth a Gwasanaethau’r Wefan gyda’r cyngor, mae disgwyl i Mirain Llŷn gysylltu â gwahanol adrannau’r Cyngor i gasglu eu gwybodaeth ddiweddaraf a’i drosglwyddo’n gryno ac yn ddealladwy i’r wefan.

“Rydan ni’n defnyddio tipyn ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, ac mae angen meddwl eto pwy ydy’r gynulleidfa a dewis yr eirfa fwya’ addas.”

Felly, mae’r ferch o Aberdaron yn tynnu’n aml ar ei hastudiaethau yn y Brifysgol lle gwnaeth radd yn y Gymraeg gan ddilyn amrywiaeth o fodiwlau llên ac iaith.

“Mae’r hyn ddysgais i yn ystod fy ngradd yn dod i mewn i ’ngwaith i bob dydd,” meddai – un o’r pethau oedd wedi ei denu i astudio’r Gymraeg ym Mangor

“Mi wnes i hefyd fwynhau astudio modiwl ar Lenyddiaeth Gymraeg America. Roedd hynny wedi apelio’n fawr ata’ i am ei fod yn gyfle i wthio fy ffiniau ychydig a dysgu am rywbeth o’r tu allan i Gymru.”

Marc Williams

O gwmni Bale a Ramsey i gerfio gyrfa newydd

“Mae’r cwrs wedi bod yn sylfaen dda i fi fagu hyder wrth gyfweld â phobol, ac wedi agor fy llygaid ar y posibiliadau.”

 

Mwy am Marc...

Mae pêl-droediwr sydd wedi chwarae gyda chewri fel Gareth Bale a Joe Allen yn paratoi at ddyfodol newydd wrth wneud gradd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mangor.

Ac yntau’n 28 oed, penderfynodd Marc Williams o Landrillo-yn-rhos astudio fel myfyriwr hŷn er mwyn bod yn barod am fywyd ar ôl rhoi’r gorau i’r gêm broffesiynol.

Ei obaith yw defnyddio’r sgiliau y mae’n eu dysgu yn y Brifysgol i greu gyrfa newydd yn sylwebu ar bêl-droed, gan ddefnyddio’i flynyddoedd o brofiad yn y maes.

Mae wedi chwarae i glwb pêl-droed Wrecsam a Chaer, ond yr uchafbwynt iddo oedd bod yn nhîm dan 21 oed Cymru mewn oes aur.

“Ro’n i’n lwcus ar y pryd i chwarae efo chwaraewyr fel Aaron Ramsey, Joe Allen, Wayne Hennessey a Gareth Bale,” meddai.

“Roedd yn gyfle i deithio a gweld y byd. Ro’n i wedi tyfu fyny yn caru pêl-droed ac roedd cael fy nhalu i gicio pêl yn rhywbeth swreal. Roedd hi’n anodd credu mai dyna oedd fy swydd.”

Bellach mae Marc Williams yn chwarae’n rhan amser i glwb pêl-droed Llandudno ac yn parhau i lwyddo - fe enillodd wobr Chwaraewr y Tymor Uwch Gynghrair Cymru'r llynedd.

“Ond dydy chwarae pêl-droed ddim yn rhywbeth y medra i wneud am byth,” meddai, ac yntau ar ei drydedd flwyddyn yn y Brifysgol. “Mae’n rhaid imi ystyried fy nyfodol ar ôl hynny.

“Mae’r cwrs wedi bod yn sylfaen dda i fi fagu hyder wrth gyfweld â phobol, ac wedi agor fy llygaid ar y posibiliadau.”

Llŷr Titus

Drama, nofel a dwy wobr fawr...

“Mae adeg y Brifysgol yn gyfnod da i hel syniadau a magu llais.”

 

 

Mwy am Llŷr ...

Mae Llŷr sydd o Ben Llŷn wedi cyhoeddi nofel, llwyfannu drama a chipio dwy wobr fawr wrth astudio yn Ysgol y Gymraeg.
Y gamp ddiweddara’ oedd cyhoeddi nofel i bobl ifanc, Gwalia, wrth wneud ei radd Meistr – ac ennill gwobr Tir na n-Og amdani ym mis Mehefin 2016.

Mae’n nofel ffuglen wyddonol wedi’i hanelu at yr arddegau ac yn ôl Llŷr, “mi wnes i ysgrifennu rhywbeth y byddwn i wedi mwynhau ei ddarllen yn yr oed yna, a dw i’n hoff iawn o ffuglen wyddonol”.

“Mi oeddwn i eisiau llenwi bwlch hefyd, achos oeddwn i’n ymwybodol nad oes llawer o nofelau tebyg ar gael yn y Gymraeg,” meddai wedyn.
Rai misoedd ynghynt, fe gafodd Llŷr Titus weld ei ddrama Drych yn cael ei pherfformio drwy gymorth Cymdeithas Ddrama’r Brifysgol a chynllun ‘O Sgript i Lwyfan’ cwmni’r Frân Wen.

Fe ddaeth honno â gwobr iddo hefyd – Y Dramodydd Gorau yn y Gymraeg yng ngwobrau Theatr Cymru 2016.

“Roedd hynna’n hwb aruthrol, achos roedd o’n rhyw fath o gadarnhad fy mod i’n medru ysgrifennu, ond wnes i erioed feddwl y baswn i’n ennill i ddweud y gwir; roedd cael fy enwebu’n ddigon.”

Ar hyn o bryd, mae Llŷr Titus yn ail flwyddyn ei ddoethuriaeth yn y Brifysgol gan archwilio dylanwad  y syniad o Geltigrwydd yng Nghymru’r ugeinfed ganrif.

Er nad oedd wedi dilyn cyrsiau llawn mewn ysgrifennu creadigol, mae’n cydnabod cefnogaeth Ysgol y Gymraeg wrth ei annog i ysgrifennu.

“Ro’n i eisiau gwneud ymchwil mewn maes hollol wahanol, ond mi wnes i ddilyn nifer o fodiwlau creadigol ar y cwrs gradd ac mi faswn i’n annog unrhyw un arall sydd â diddordeb i ddilyn modiwlau o’r fath hefyd.

“Mae adeg y Brifysgol yn gyfnod da i hel syniadau a magu llais.”

Megan Elias

Mwy na Medal i Megan

“Mae Ysgol y Gymraeg wedi bod yn grêt, mae’n adran fechan felly rydan ni gyd yn adnabod ac yn cefnogi’n gilydd, ac erbyn hyn dw i ddim yn teimlo bod yna ffasiwn beth ag ail iaith, fy iaith i ydy hon.”

 

Mwy am Megan...

Ers ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym mis Mai 2016 mae llu o ddrysau wedi agor i Megan Elias.

“Mae’r wobr yn golygu’r byd imi ac mae’n anodd credu, ddwy flynedd yn ôl nad oeddwn i ddim yn siŵr iawn beth oedd Eisteddfod.”

Ers ennill mae wedi cael cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen Dal Ati ar S4C ynghyd â theithio o le i le i rannu ei phrofiadau gyda dysgwyr eraill.
Mae hi eisiau eu hysbrydoli nhw, fel y cafodd hithau ei hysbrydoli a gwneud y penderfyniad allweddol i ddod i Brifysgol Bangor i astudio Cymraeg.

Ymweliad ag Eisteddfod Genedlaethol  yr Urdd yn Y Bala ddwy flynedd yn ôl oedd y digwyddiad tyngedfennol – cyn hynny, roedd y ferch o Fae Colwyn wedi bwriadu mynd i Loegr i astudio Cyllid.

 “Roedd o’n agoriad llygad imi weld y Gymraeg mor fywiog ymhob man, ac roeddwn i eisiau bod yn rhan o hynny.”

Prifysgol Bangor oedd yr ateb ac roedd y profiadau yno ac anogaeth tiwtoriaid yn allweddol wrth iddi gystadlu am y Fedal.

“Mae Ysgol y Gymraeg wedi bod yn grêt, mae’n adran fechan felly rydan ni gyd yn adnabod ac yn cefnogi’n gilydd, ac erbyn hyn dw i ddim yn teimlo bod yna ffasiwn beth ag ail iaith, fy iaith i ydy hon.”

Ar ôl graddio, mae Megan Elias yn awyddus i ddilyn gyrfa trwy gyfrwng y Gymraeg - “dw i eisiau hybu’r iaith a rhannu fy mhrofiadau â phobol eraill”.

Rhun Morris

Gwobr, gwaith a gyrfa

“Mae’r darlithwyr wedi bod yn gymorth mawr... ac mae gan yr Ysgol hanes hir o fwy na 125 mlynedd o ragoriaeth.”

 

Mwy am Rhun...

Fe adawodd Rhun Morris Brifysgol Bangor gyda llawer mwy na gradd gynta’ mewn Cemeg.

Fe gafodd wobr werthfawr, sgiliau newydd ym maes ynni niwclear, profiadau braf yn cymdeithasu gyda myfyrwyr eraill ac agoriad llygad o ran gyrfa yn y dyfodol.

O ganlyniad i gyfnod o brofiad gwaith mewn meddygfeydd teuluol, mae wedi cael ei ysbrydoli i wneud gradd bellach mewn meddygaeth.

Ac yntau’n wreiddiol o Fangor, mae’n cydnabod dylanwad Ysgol Gemeg y Brifysgol am gynnig llwybrau newydd iddo. 

 “Mae’r darlithwyr wedi bod yn gymorth mawr... ac mae gan yr Ysgol hanes hir o fwy na 125 mlynedd o ragoriaeth,” meddai.

Rhan o gwrs Rhun oedd treulio cyfnod yn gemegydd dadansoddol i gwmni Magnox yn Atomfa’r Wylfa yn Ynys Môn – roedd hynny dan gynllun y Brifysgol, Blwyddyn Mewn Diwydiant.

“Fe wnes i ddatblygu sgiliau proffesiynol fel gweithiwr a chemegydd,” meddai. “Roedd fy rôl yn cynnwys dadansoddi’n fanwl wahanol samplau yn yr Orsaf Bŵer ynghyd â monitro offer a systemau.

Wrth raddio gyda gradd ddosbarth gynta’, fe lwyddodd Rhun hefyd i ennill gwobr myfyriwr gorau’r drydedd flwyddyn a chael ei enwebu am wobr y myfyriwr gorau trwy’r brifysgol i gyd.

“Mae Rhun yn fyfyriwr eithriadol o ddeallus, aeddfed a gweithgar,” meddai ei diwtor Dr Ken Hughes.

Ond mae Rhun hefyd yn canmol ochr gymdeithasol  y Brifysgol gan ddweud mai un o’i uchafbwyntiau oedd byw mewn llety myfyrwyr yn y Ffriddoedd yn ei flwyddyn gyntaf.

“Mi gwrddais i â llawer o bobol a ddaeth yn ffrindiau da imi,” meddai. “Roedd dod o hyd i’r cydbwysedd rhwng bywyd cymdeithasol a’r gwaith astudio yn hawdd, ac mi gyfrannodd hynny at fy mhrofiad pleserus yma.”

Sioned Young a Marged James

Ennill profiad, sgiliau ... a chyflog

Mae Sioned a Marged sydd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill profiadau a sgiliau gwerthfawr trwy gynllun gwaith o fewn Prifysgol Bangor.

 

Mwy am Sioned...

Roedd Sioned Young o Benygroes a Marged James o Aberystwyth wedi manteisio ar y cynllun Interniaeth, sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr weithio yn rhai o adrannau’r brifysgol, a chael cyflog am wneud.

Fe helpodd Sioned Young, sy’n astudio gradd mewn Astudiaethau Creadigol, i drefnu Ffair Swyddi Cymraeg y Brifysgol – cyfle i fyfyrwyr gwrdd â chyflogwyr o bob cwr o Gymru gan arddangos y math o swyddi sydd ar gael ar ôl graddio. 

“Roedd gan y Brifysgol Ffair Swyddi gyffredinol eisoes, ond ro’n i’n gweld y pwysigrwydd i gael Ffair Swyddi yn canolbwyntio ar swyddi posib yn y Gymraeg,” meddai.

Fe roddodd y profiad gyfle iddi ddatblygu sgiliau marchnata a threfnu ac fe arweiniodd hynny at swydd tros yr haf yn marchnata gyda chwmni theatr y Frân Wen.

Mwy am Marged...

A hithau yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, fe fanteisiodd Marged James hefyd ar interniaeth gydag Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg y Brifysgol a chyfrannu at brosiect ymchwil yn archwilio sut mae dysgwyr Cymraeg yn ynganu geiriau.

Fe roddodd y profiad ysbrydoliaeth iddi wrth feddwl am bwnc ei thraethawd ymchwil.

“Roedd e’n waith cyffrous,” meddai, “wrth inni edrych sut mae dysgwyr yn ynganu geiriau, ac os yw ynganu’n gywir yn cyfrannu at hyder y dysgwyr a’r iaith yn dod yn haws wedyn.”

Bellach, mae’n dweud y byddai’n hoffi canolbwyntio mwy ar seicoleg ac iaith.

Sara Wyn Owen

Sara yn ffeindio gyrfa

“O’n i’n astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ond roedd yna bob math o fodiwlau gwahanol; doedd y cwrs ddim yn sét ac felly roedd yna gyfle i fynd i wahanol gyfeiriadau, gan gynnwys iechyd meddwl.”

 

Mwy am Sara...

Fe aeth un o fyfyrwyr yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn syth o ennill gradd dosbarth cyntaf i weithio mewn swydd arloesol.
Ac mae’r cwrs a’r profiad gwaith wedi helpu Sara Wyn Owen o Amlwch i benderfynu ar ei gyrfa yn y dyfodol.

“O’n i’n astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ond roedd yna bob math o fodiwlau gwahanol; doedd y cwrs ddim yn sét ac felly roedd yna gyfle i fynd i wahanol gyfeiriadau, gan gynnwys iechyd meddwl.”

O ganlyniad, mae Sara bellach yn gweithio gyda phrosiect o’r enw Caniad, sy’n ceisio rhoi llais i bobol gydag afiechyd meddwl a rhai sy’n cam-ddefnyddio cyffuriau.

Y nod yw rhoi’r cyfle iddyn nhw ddylanwadu ar y gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn a helpu i’w siapio.

Dan adain yr elusennau Hafal a Cais, mae Sara’n cynnal sgyrsiau gyda defnyddwyr y gwasanaethau, gan gofnodi a throsglwyddo’u barn.

Mae bellach yn fwy pendant fyth mai dyma fydd ei maes – ei gobaith yw cael swydd gyda’r heddlu, yn gweithio yn y gymuned gyda phobl ag afiechyd meddwl.

Mae’n faes sy’n dod yn fwy a mwy pwysig, meddai, a chefnogaeth y Brifysgol yn dal i fod yn allweddol iddi.

“Mae staff yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn dal i gadw cysylltiad, i holi sut mae pethau’n mynd a chynnig cyngor, ac mae hynny’n grêt.”