'Tîm Bangor' yn disgleirio ar y llwyfan codi pwysau yn Samoa

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn perfformio'n wych ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau'r Gymanwlad yn Samoa.

Yn cynrychioli Tîm Cymru, enillodd Catrin Jones, myfyrwraig seicoleg a derbynnydd Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Bangor, fedal Aur yn y categori 55Kg Iau.

Roedd Michael Farmer, myfyriwr daearyddiaeth, hefyd yn dderbynnydd Ysgoloriaeth Chwaraeon, yn cystadlu yn y categori 67Kg. Mae wedi perfformio’n wych drwy ennill medal Arian i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae aelod o staff Canolfan Brailsford, a Phencampwr Gemau’r Gymanwlad, Gareth Evans, wedi perfformio’n rhagorol unwaith eto i ennill y fedal Arian yn y categori 67Kg.    

Enillodd Hannah Powel, Alumna sy'n gweithio i Codi Pwysau Cymru yng Nghanolfan Brailsford, fedal Arian yn y categori 45kg Hyn.

Mae Josh Lynch sy'n hyfforddi yng Nghanolfan Brailsford, hefyd wedi ennill medal Arian yn y dosbarth 81Kg Iau.

Llongyfarchiadau i bawb!

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2019