Newyddion Myfyrwyr: Medi 2012

Cyfle i Astudio am 20 Credyd yn yr Almaen yn ystod y Semester Cyntaf

Mae yna gyfle i 6 myfyriwr ail flwyddyn o’r Gwyddorau Cymdeithas i astudio am 10 diwrnod yn yr Almaen yn ystod y semester cyntaf yma, o 12 Tachwedd hyd at 22 Tachwedd. Mae’r modiwl 20 credyd yma, Ymwneud Gwirfoddolwyr yn Ewrop, yn cael ei gefnogi gan Erasmus ac wedi ei ddilysu gan Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2012

Mark Stevens o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth wyneb yn wyneb â Paxman

Fe wnaeth Mark Stevens, myfyriwr is-radd yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, helpu Prifysgol Bangor i drechu Prifysgol St Andrews yn rownd gyntaf cyfres 2012/2013 o University Challenge.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2012

Myfyrwyr Bangor yn fuddugoliaethus ar University Challenge

Fe wnaeth  myfyrwyr Prifysgol Bangor herio a churo tîm o fyfyrwyr o brifysgol hynaf yr Alban, Prifysgol St Andrews, yng ngornest University Challenge ar BBC 2 Wales neithiwr (Medi 24)

Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2012

Myfyriwr PhD i fod yn Ymgynghorydd Technegol i Gemau Olympaidd Arbennig Prydain

Mae Niamh Reilly wedi cael ei dewis yn Ymgynghorydd Technegol i Gemau Olympaidd Arbennig Prydain ar gyfer y Rhaglen Hyfforddi Gweithgaredd Motor (MATP).

Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2012

Myfyrwyr yn edrych ymlaen at rannu llwyfan gyda’r digrifwr enwog Phill Jupitus

Mae myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn edrych ymlaen at rannu llwyfan gyda’r digrifwr enwog Phill Jupitus.

Mae aelodau o Gymdeithas Gomedi Prifysgol Bangor yn brysur yn paratoi ar gyfer sioe 'Student Goat’, sef sioe gomedi addasiad ar y pryd yn arddull ‘Whose Line is it Anyway’ a ‘Mock the Week’, a fydd yn cael ei berfformio gyda’r digrifwr chwedlonol Phill Jupitus.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2012