Newyddion Myfyrwyr: Ebrill 2014

Llwyddiant i ddoniau Ensemble Cymru

Mae wedi bod yn wythnos nodedig ar gyfer un o sêr ifainc Ensemble Cymru, Collette Astley-Jones cyn myfyrwraig Prifysgol Bangor, wrth iddi ddathlu cael swydd newydd!

Mae Collette yn aelod o deulu Ensemble Cymru a wnaeth waith eithriadol, yn fwyaf diweddar fel rheolwr cerddorfaol ar gyfer taith genedlaethol Pedr a’r Blaidd. A hithau ond newydd orffen ei gradd Meistr mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor fis Hydref diwethaf, nid yw wedi cymryd llawer o amser i ddawn Collette gael ei hadnabod o fewn y diwydiant, am iddi gael ei phenodi’n ddiweddar gan Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl yn Cynorthwy-ydd Cynllunio Artistig ac Ensemble.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2014

Llwyddiant Myfyrwyr Mentrus Bangor yng Nghystadleuaeth FLUX

Daeth tîm o Brifysgol Bangor yn ail drwy Brydain yn y Gystadleuaeth FLUX bwysig a gynhaliwyd yn ddiweddar. Hon yw'r gystadleuaeth entrepreneuriaeth fwyaf yn y sector addysg uwch.   Gosodwyd eu her iddynt gan Costain, grŵp adeiladu a pheirianneg rhyngwladol, gyda'r bwriad o roi prawf ar eu sgiliau busnes a masnachol.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2014

Coroni Bangor yn bencampwyr Cymru mewn Cystadleuaeth Llys Barn Ffug

Am y tro cyntaf mae tîm o Ysgol y Gyfraith Bangor wedi ennill y Gystadleuaeth Llys Barn Ffug flynyddol Gymreig.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2014

Grant bwysig yn cael ei rhoi i un o raddedigion PhD diweddar yr Ysgol

Mae Philip Walker Jacobs, a enillodd radd PhD yn ddiweddar o'r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd, wedi derbyn gwobr bwysig i gymryd rhan yn Sefydliad Haf y National Endowment for the Humanities. Thema'r Sefydliad Haf eleni yw 'Representation of the "Other": Jews in Medieval England' ac fel cynhelir o 13 Gorffennaf tan Awst 2014 yn yr Oxford Centre for Hebrew and Jewish Studies yn Rhydychen.  Bydd Dr Jacobs yn cyflwyno gwaith ar 'Artistic Depictions of Joseph the Carpenter in Medieval England' sy'n adeiladu ar ei thesis PhD.  Mae Dr Jacobs yn dysgu yn Cape Fear Community College yn Cape Fear, Gogledd Carolina, yr Unol Daleithiau.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2014

Gwe-Sgyrsiau gydag Aelodau'r Cynulliad

Rydym yn chwilio am fyfyrwyr a phrentisiaid i gymryd rhan mewn gwe-sgwrs gydag Aelodau’r Cynulliad ynglyn â Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yng Nghymru. Rydym am glywed eich barn ynglyn ag a ydych yn credu bod digon yn cael ei wneud i annog pobl ifanc i ddilyn cyrsiau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Hoffem hefyd glywed eich barn ynglyn ag a yw’r cyrsiau hyn yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau gofynnol ar gyfer gyrfa yn y meysydd hyn. 

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2014

Myfyrwyr yn trefnu Cynhadledd Cymru a Rhyfel 1914 - 2014

Heddiw (8 Ebrill 2014) mae tri myfyriwr ôl-radd o Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg Prifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd a fydd yn rhoi golwg newydd ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru ar y pryd ac ar ôl hynny.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2014

Dathlu llwyddiant yn wyneb anawsterau lu

Fe wnaeth myfyriwr o Brifysgol Bangor, a gafodd help llaw gan yr Helena Kennedy Foundation, gymryd rhan mewn dathliad arbennig yn Nhŷ'r Arglwyddi'n ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014

Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn gwneud y rhyngrwyd yn lle diogelach

Mewn hacathon a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Southampton fe wnaeth myfyriwr o Brifysgol Bangor ennill y dosbarth 'Hac Gorau'.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2014

Cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor yn bwriadu creu nofel wedi ei darlunio

Mae cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor yn gobeithio bydd y gymuned leol yn cefnogi ei ymdrechion i gyhoeddi nofel wedi ei darlunio fer cyntaf.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2014