Newyddion Myfyrwyr: Medi 2014

Interniaeth yn Jaguar Land Rover yn gwireddu breuddwyd Peter

Mae myfyriwr mewn Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol wedi treulio ei ail haf ar gynllun nawdd o fri yn Jaguar Land Rover yn Coventry.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2014

Myfyrwyr Bangor yn cychwyn ar flwyddyn arall o astudio

Yn dilyn wythnos groeso brysur a gweithgareddau ymgynefino, mae dros 2000 o fyfyrwyr newydd yn ymgartrefu i fywyd academaidd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon. Mae’n siŵr eu bod yn hapus canfod eu bod wedi dewis astudio yn y brifysgol sydd ar y brig yng Nghymru, ac yn seithfed yn y Deyrnas Unedig o ran boddhad myfyrwyr, yn ôl yr Arolwg Boddhad Myfyrwyr cenedlaethol (NSS).

Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2014

Croeso Arbennig i Fyfyrwyr Rhyngwladol Prifysgol Bangor

Eleni, trefnodd Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol sesiwn gyfarwyddo gynharach ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol Bangor. Hwn oedd y tro cyntaf i hyn ddigwydd, a’r nod oedd darparu rhaglen groeso a oedd wedi’i llunio’n arbennig ac wedi’i ffocysu – gan roi cyfle i fyfyrwyr rhyngwladol drefnu’r holl agweddau ymarferol sy’n gysylltiedig â byw ac astudio mewn gwlad newydd, a hynny cyn rhaglen brysur yr Wythnos Groeso yn ganolog!

Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2014

Prifysgol Bangor yn cynnal diwrnod croesawu arbennig i fyfyrwyr lleol

Daeth oddeutu 100 o fyfyrwyr newydd o ogledd Cymru, sydd ar fin dechrau cwrs gradd ym Mhrifysgol Bangor, ac a fydd yn  teithio bob dydd i’r brifysgol, i’r Brifysgol ddoe (16 Medi) er mwyn cael cyfle arbennig i gwrdd â’i gilydd a dod i adnabod y brifysgol

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2014

Myfyrwyr Bangor yn dechrau busnes y gyfraith yn Canary Wharf

Mae Kawa, Guimaraes and Associates Solicitors, cwmni o gyfreithwyr a sefydlwyd yn ddiweddar yng Nghaergybi, wedi agor chwaer gwmni mewn adeilad adnabyddus yn One Canada Square, Canary Wharf, Llundain.

Sefydlwyd y cwmni gan yr entrepreneuriaid, Mehedi Rahim a Kate Kawa. Mae Mehedi Rahim yn fyfyriwr PhD yn ei flwyddyn olaf yn ymchwilio i gyfraith Islamaidd ac Yswiriant Morol y DU yn Ysgol y Gyfraith ac mae Kate wedi graddio gyda MBA o Ysgol Busnes Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2014

Cyfle i ddysgu am hanes Cymdeithas myfyrwyr dylanwadol

Cyn aelod yn cyflwyno hanes gogoneddus Cymdeithas y Ddrama Gymraeg

Yn dilyn ail sefydlu’r Gymdeithas Ddrama yn 2012 a llwyddiant ei blwyddyn lawn gyntaf o berfformiadau a gweithdai, mae’r Gymdeithas wedi gwahodd un o’i chyn aelodau i roi sgwrs ar hanes difyr a dylanwadol y Gymdeithas.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2014

Cwrs ‘Visceral Mind’ yn denu meddyliau galluog i Fangor

Am y pumed flwyddyn, croesawodd Prifysgol Bangor ddeugain o wyddonwyr ifanc disglair sy'n astudio'r ymennydd o dros 20 o wledydd yn cynnwys Israel, Colombia, Ecwador, Lithwania a Sri Lanka  i'w hysgol haf ryngwladol flynyddol. Cynhaliwyd ‘The Visceral Mind: A Hands-on Course in the Anatomy of Human Cognition’ rhwng 1 a 5 Medi. Bu modd cynnal y cwrs oherwydd rhodd werth $225,000 gan Sefydliad James S McDonnell.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2014