Newyddion Myfyrwyr: Tachwedd 2014

Dathlu rhagoriaeth ymysg myfyrwyr y flwyddyn gyntaf

Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A.

Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Prifysgol Bangor yn cael eu dyfarnu i'r myfyrwyr newydd sydd â'r cyrhaeddiad academaidd uchaf yn eu pynciau penodol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2014

Myfyrwraig yn cynorthwyo ar gyfres rhaglenni Dyma Fi ar S4C

Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi  cael cyfle gwych yn ddiweddar i weithio ar gyfres teledu ar gyfer S4C gyda’r nod o lunio portread gonest o fywydau pobl ifanc Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.

Mae Shân Pritchard, sydd eisoes wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, wedi bod yn gweithio ar gyfres o raglenni mewn partneriaeth a chwmni cynhyrchu teledu, Cwmni Da fel rhan o’i gradd Meistr.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2014

Myfyriwr Cyfrifiadureg wedi hacio’n fyw ar lwyfan mewn prif ddigwyddiad yn Llundain

Bu myfyriwr o Brifysgol Bangor sydd hefyd yn haciwr moesol ardystiedig yn cymryd rhan mewn digwyddiad mawr yn Llundain yn ddiweddar. Roedd siaradwyr adnabyddus fel Boris Johnson a'r Arglwydd Alex Carlile hefyd yn rhan o’r digwyddiad. Perfformiwyd ‘hac’ yn fyw ar lwyfan gan Jamie Woodruff, 21 oed, o Rishton , Swydd Gaerhirfryn sy’n fyfyriwr ail flwyddyn yn yr Ysgol Cyfrifiadureg, fel rhan o’r digwyddiadLegislating for LulzSec' - trafodaeth ar breifatrwydd, data a pholisi ar gyfer yr economi ddigidol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2014

Ffair y Gyfraith ym Mangor yn amlygu cyfleoedd cyflogaeth i raddedigion

Fel rhan o’i dathliadau deng mlynedd mewn bodolaeth, fe fydd Ysgol y Gyfraith Bangor (Gwynedd) yn cynnal Ffair y Gyfraith ar ddydd Mercher, 19 Tachwedd 2014, rhwng 9.45am tan 3.30pm.  Bwriad y Ffair yw i ddod â myfyrwyr y Gyfraith ym Mangor a chyflogwyr ynghyd mewn amgylchedd fydd yn creu canlyniadau cyd-fanteisiol.

 

 

Mae’r Ffair y Gyfraith yn gyfle i unrhyw un, o fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith, i ddisgyblion ysgolion uwchradd, i rai sy’n cynnig cyfleodd gyrfa, ac unrhyw un arall fyddai â diddordeb mewn gweld pa fath o yrfaoedd yn y Gyfraith sydd ar gael i’r rhai hynny sydd â gradd yn y Gyfraith.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2014

Bwrsariaethau Ehangu Mynediad yn caniatáu myfyrwyr i barhau a’u hastudiaethau

Three new Bangor University Masters students have each been awarded a £5,000 bursary by the University’s Widening Access Centre as part of its commitment to postgraduate learning. All three recipients are from economically-deprived areas and have shown considerable fortitude in gaining their undergraduate degrees. The Widening Access bursaries will now allow these individuals to continue with their education

Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2014