Newyddion Myfyrwyr: Hydref 2015

Bronze for Ben in Hill Climb Championship

Ddydd Sadwrn, 24 Hydref, fe wnaeth Ben Butler, myfyriwr PhD blwyddyn olaf yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, ennill medal efydd yn y British Universities Hill Climb Championship. 

Daeth bron i 200 o feicwyr o brifysgolion ar draws Prydain i roi cynnig ar y ddringfa hynod galed i fyny'r Curbar Gap yn ardal y Peak.  Mae graddiant o 11% dros 1 filltir ar y ffordd hon, sy'n golygu ei bod yn brawf caled iawn ar yr holl ymgeiswyr.  Roedd y beicwyr yn cychwyn yn unigol gyda munud rhwng pob un gyda'u hamser gorau ar y ddringfa yn cael ei nodi.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2015

Gwen Elin yn cipio Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2015

Nos Sul, Hydref 25, 2015 fe gipiodd y gantores Gwen Elin o Benllech, Ynys Môn Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2015 mewn noson wefreiddiol a gynhaliwyd yn Sefydliad y Glowyr y Coed Duon. Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, gwerth £4,000 i Gwen yn y noson oedd yn fyw ar S4C ac yn benllanw ar weithgareddau’r Eisteddfod eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2015

Eich cadw yn y ddolen gyfreithiol: graddedigion yn y gyfraith yn lansio gwefan newyddion

Mae dau gyn-fyfyriwr a raddiodd ym Mhrifysgol Bangor wedi lansio gwefan newyddion cyfreithiol a chymorth i astudio’r gyfraith sydd yn targedu'r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr.

Lansiwyd Legal Loop ar 1 Hydref, ac fe'i disgrifiwyd fel adnodd ar-lein cynhwysfawr sy'n rhoi gwybodaeth am y datblygiadau cyfreithiol diweddaraf yn y DU. 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2015

Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cyrraedd copa Kilimanjaro

Ar ôl chwe diwrnod o waed, chwys a dagrau bu grŵp o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu cyrraedd copa Mynydd Kilimanjaro i godi pres ar gyfer elusen.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2015

Dymuno’n dda i Gwen ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel

Bydd myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni, wedi iddi gael ei dewis gan y beirniaid ar gyfer y rhestr fer.

Dymuna’r Brifysgol yn dda i Gwen Elin, sydd yn astudio Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau  yn y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2015

Gosod arwyddion newydd yn stadiwm Prifysgol Bangor

Heddiw (16 Hydref), dadorchuddiwyd arwyddion newydd Stadiwm Prifysgol Bangor, sef cartref Clwb Pêl-droed Dinas Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2015

Drama myfyriwr yn derbyn croeso ar ei thaith

Myfyriwr MA yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor sy’n gyfrifol am ysgrifennu drama sydd ar daith o amgylch Cymru ar hyn o bryd, ac yn denu adolygiadau ac ymateb ffafriol tu hwnt.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2015

Cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor yn dychwelyd o Daith Ddringo yng Nghanada

Mae mynyddwr proffesiynol profiadol sy’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor wedi dychwelyd yn ddiweddar o daith ddringo heriol ym mynyddoedd yRockies yng Nghanada.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2015