Newyddion Myfyrwyr: Awst 2017

Athletwraig o Fangor yn derbyn gwobr Codwr Pwysau Ifanc Prydeinig y Flwyddyn

Catrin Jones, 17 oed o Fangor, yw Codwr Pwysau Ifanc Prydeinig y Flwyddyn, teitl a roddir i godwr pwysau Olympaidd am berfformiadau a llwyddiannau eithriadol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2017

Myfyriwr Hanes yn ennill gwobr mawreddog

Llongyfarchiadau mawr i Ceiri Coker, myfyriwr yn yr Ysgol Hanes ac Archaeoleg, ar ennill Gwobr Goffa Dr John Davies yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2017. Caiff y wobr ei dyfarnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y traethawd estynedig gorau a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Hanes Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017

Graddedigion Ysgol Busnes Bangor mewn digwyddiad i arweinwyr busnes yn y Shard

Bu graddedigion Ysgol Busnes Bangor, Agnieszka Kurdzieko ac Elin Jones mewn cinio arbennig i Arweinwyr y Dyfodol ym mis Gorffennaf, a gynhaliwyd gan CPA Awstralia yn y Shard yn Llundain.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017