Newyddion Myfyrwyr: Hydref 2017

Entrepreneur ifanc o Fangor yn credu bod digon o bysgod yn y môr

Mae myfyriwr 20 oed o Brifysgol Bangor yn defnyddio ei angerdd dros fioleg y môr i wireddu ei uchelgais o ddod y cyflenwyr ar lein mwyaf o rywiogaethau o bysgod byw yng ngwledydd Prydain.  

Bydd Sam Hamill, sydd ar ei drydedd flwyddyn o astudio Bioleg y Môr, yn lansio ei Big on Fish fis Tachwedd, siop ar lein ac ar y stryd yn gwerthu offer acwariwm ac yn cadw mwy na 1100 o rywogaethau o bysgod egsotig a chwrel.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2017

Gwirfoddoli yn ffordd o fyw i Elan

Mae Elan Môn Gilford, myfyrwraig o Lanfairpwll sydd yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, yn un o blith ond 20 o bobl ledled y byd sydd wedi derbyn Gwobr Etifeddiaeth Diana (Diana Legacy Award) am waith gwirfoddol.

Rhoddir y Wobr yn enw’r Dywysoges Diana i bobl ifanc sydd yn gosod esiampl wrth roi o’u gwirfodd er mwyn trawsnewid bywydau eraill. Mae’r wobr yn cydnabod pobl ifanc sydd yn mynd y tu hwnt i’w bywydau dyddiol hwy er mwyn creu a chynnal newid positif.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017