Newyddion Myfyrwyr: Ionawr 2018

Llwybr newydd yn arwain at yrfa mewn nyrsio

Rhaglen Diploma Ôl-radd mewn Nyrsio Oedolion gan Brifysgol Bangor yw'r cwrs cyntaf o'i fath yng ngogledd Cymru. Mae'n cynnig llwybr carlam dwy flynedd i raddedigion diweddar ym maes gwyddor bywyd a gwyddorau cymdeithas allu cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2018

‘Cwffio achos’ y Celfyddydau

Mae gwaith Sioned Young yn dalcen caled ond yn un sy’n dod â “phleser mawr” iddi hefyd. Mae’r ferch o Benygroes, Dyffryn Nantlle, ynghanol interniaeth deng mis gyda chwmni Celfyddydau a Busnes Cymru yng Nghanolfan y Celfyddydau ac Arloesi Pontio, ym Mhrifysgol Bangor, yn chwilio am ffyrdd newydd o godi arian i’r celfyddydau.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018

Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor

Pob blwyddyn, bydd Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr sydd yn ddawnus mewn chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer gradd mewn unrhyw bwnc. Dyfernir yr Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a llwyddiant mewn chwaraeon.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018