Newyddion Myfyrwyr: Ebrill 2018

Aur i godwyr pwysau Prifysgol Bangor

Bu myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cymryd eu lle ar y podiwm ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Prifysgolion a Cholegau Prydain a gynhaliwyd ym Mhrifysgol St Mary’s yn Twickenham yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2018

Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2018

Cynhaliwyd y seithfed seremoni Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr blynyddol yn ddiweddar. Roedd y noson i ddathlu’r safon uchel o addysgu a chymorth a geir ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2018

Y bedwaredd fuddugoliaeth yn olynol i Fangor yn y Bencampwriaeth Ryng-golegol

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol mae Prifysgol Bangor wedi ennill y Bencampwriaeth Ryng-golegol - twrnamaint chwaraeon blynyddol yn erbyn Prifysgol Aberystwyth - gyda sgôr terfynol o 33-10 i Fangor.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2018

Llwyddiant Gwobrau WhatUni i Brifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ei dewis fel y gorau ym Mhrydain am ei Chlybiau a Chymdeithasau Myfyrwyr ac am ei Llety Myfyrwyr yng ngwobrau blynyddol WhatUni.com Student Choice Awards.Hefyd, daeth y Brifysgol yn drydydd ym Mhrydain yn y categori Prifysgol y Flwyddyn ac yn ail am ei  Chyrsiau a Darlithwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018

Ysbrydolwyd gan 2001 Cystadleuaeth i Fyfyrwyr Prifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018

Taith y Gymdeithas Gwyddorau Cymdeithas i Barcelona

Ar 26 Mawrth 2018 fe wnaeth y gymdeithas gwyddorau cymdeithas hedfan i Farcelona heulog am drip pum diwrnod.  Roedd y daith hon yn dilyn llwyddiant yr un i Berlin y llynedd ac roedd pawb yn teimlo'n gyffrous iawn, er gwaethaf gorfod cychwyn yn blygeiniol am faes awyr Manceinion!  

Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2018

GALW AM BAPURAU: PATRYMAU PATRIARCHAIDD? SWYDDOGAETHAU A PHROFIADAU MERCHED AR YSTADAU TIRIOG CYMRU

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2018

Llwyddiannau Myfyrwyr Bangor gyda Heriau LifeStart

Mae dau fyfyriwr Prifysgol Bangor wedi llwyddo gyda heriau ‘LifeStart Challenges’ yn ddiweddar, gan ennill symiau sylweddol o arian a chyfleoedd i gael profiadau gwerthfawr.

Mae Prifysgol Bangor University yn un o ddim ond 12 prifysgol sydd yn cymryd rhan yn LifeStart - safle gwe sydd wedi ei ddatblygu gan Virgin StartUp. Nod LifeStart yw bod o gymorth i fyfyrwyr ganfod eu harbenigeddau a llwyddo yn eu gyrfa ac yn ariannol a hynny drwy ddysgu mwy am sgiliau menter allweddol drwy gymryd rhan mewn heriau â gwobrau.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018

Myfyrwyr rhyngwladol yn troi’n wyrdd- Glanhau’r Traeth 2018

Bu tîm o 50 o fyfyrwyr o bob cwr o’r byd yn glanhau’r traeth yng Nghricieth yn ddiweddar. Trefnwyd y fenter gan Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol Prifysgol Bangor ar y cyd efo  Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, fel rhan o broject cynaliadwyedd y Swyddfa Ryngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2018