Newyddion Myfyrwyr: Mai 2018

Ffilm ddogfen un o raddedigion Bangor yn derbyn enwebiad ar gyfer gwobr gan y Royal Television Society

Mae un o raddedigion diweddar rhaglen MA Prifysgol Bangor ym maes cynhyrchu ffilm wedi derbyn enwebiad am ei gwaith gan y Royal Televison Society, a hynny yn dilyn cyfnod ffwythlon yn arddangos ei ffilm mewn gwyliau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Charlotte Wells, o Fanceinion, wedi derbyn yr enwebiad ar gyfer y wobr uchel ei pharch am ei ffilm ddogfen fer, ‘Cabbie’, sy’n dilyn ei llys-dad wrth iddo yrru ei dacsi un gyda’r nos. Mae’r cynhyrchiad yn rhannu cyswllt pellach â Bangor, a hynny gan mai un arall o raddedigion diweddar y Brifysgol, Chiron Farrimond o’r Ysgol Gerddoriaeth, sydd wedi llunio’r gerddoriaeth sydd i'w chlywed yn y ffilm.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2018

Pencampwr Codi Pwysau’r Gymanwlad yn ennill Gwobr Goffa Llew Rees

Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ei gwobr chwaraeon uchaf flynyddol, Gwobr Goffa Llew Rees, i Godwr Pwysau a gynrychiolodd Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2018

Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn dychwelyd o raglen hyfforddi pêl-droed yn Ne Affrica

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi dychwelyd o raglen hyfforddi pêl-droed yn Ne Affrica yn sylweddoli ei fod 'yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl'.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2018

Prifysgol Bangor yn Llongyfarch athletwyr Gemau’r Gymanwlad

Manteisiodd Prifysgol Bangor yn ddiweddar ar y cyfle i longyfarch yr aelodau hynny o garfan llwyddiannus Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad sydd â chysylltiad â Phrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2018