Newyddion Myfyrwyr: Mehefin 2018

11eg Symposiwm Doethurol Rhyngwladol Cyfrifyddeg a Chyllid (IAFDS)

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2018

Llwyddiant myfyrwyr nyrsio: Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg

Llongyfarchiadau i un ar ddeg o fyfyrwyr nyrsio am lwyddo i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg a ddyfarnwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2018

Myfyrwraig Prifysgol Bangor i gynrychioli Prydain Fawr mewn Pencampwriaethau Cyfeiriannu

Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cael ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Cyfeiriannu Prifysgolion y Byd yn y Ffindir ym mis Gorffennaf.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2018

Myfyrwyr amaethgoedwigaeth yn teithio i Indonesia

Teithiodd staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor i Ddwyrain Kalimantan yn Indonesia, fel rhan o gwrs maes ar y rhaglen MSc Amaethgoedwigaeth. Trefnwyd y cwrs maes gyda chymorth y project Ffrwythau Coedwig a Maeth Gwledig (FFRAN), sef menter ar y cyd rhwng Prifysgol Mulawarman a Phrifysgol Bangor. Nod y project yw pennu pa rôl y gallai ffrwythau coedwigoedd trofannol, na wneir defnydd helaeth ohonynt ar hyn o bryd, ei chwarae wrth liniaru diffyg maeth ymysg plant mewn ardaloedd gwledig. Un o brojectau Cysylltiadau Sefydliadol y Cyngor Prydeinig yw FFRAN, fel rhan o Gronfa Newton.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2018

Ail gynhadledd PhD lwyddiannus Cymru gyfan i’r Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

Yn ddiweddar cynhaliodd Bangor ail gynhadledd PhD Cymru gyfan i’r Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, gan groesawu dros 50 o ymchwilwyr PhD o bob rhan o Gymru. Datblygwyd y gynhadledd o ganlyniad i’r awydd i gynyddu ymchwil gydweithredol ym maes Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yng Nghymru, yn ogystal â Hyfforddiant Doethurol hynod lwyddiannus ESRC Cymru yn y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2018

Taith Hanes Hudolus

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig y cyfle ichi fynd ar daith hanes hudolus o amgylch Ynys Môn.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2018

Wythnos i’w chofio i Aelwyd JMJ yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018

Mae Aelwyd Urdd JMJ, sef aelwyd neuadd Gymraeg Prifysgol Bangor, wedi cael Eisteddfod yr Urdd nodedig eleni, gyda’r Gadair, y Goron a gwobrau yn y prif gystadlaethau corawl yn cael eu cipio gan yr aelwyd a’i haelodau.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2018

Myfyrwraig Prifysgol Bangor yn cychwyn busnes eco-ymwybyddiaeth

Mae gan fyfyrwraig o Brifysgol Bangor, a fu’n gorfod gwrthod ei lleoliad gwaith delfrydol oherwydd problemau iechyd parhaus, reswm i ddathlu yn dilyn lansiad ei busnes eco-ymwybyddiaeth ei hun, sy’n bwriadu goleuo arddegwyr am faterion amgylcheddol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2018

Erin Hughes yn ennill Coron Eisteddfod yr Urdd

Enillydd Coron Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed 2018 yw myfyrwraig Prifysgol Bangor, Erin Hughes o Ben Llŷn. Mae’n ennill am ddarn o ryddiaith ar y thema ‘Terfysg’, i ganmoliaeth uchel gan y beirniaid, Catrin Beard a Lleucu Roberts. Mae Erin, 20, yn byw yng Ngheidio, yn ardal Boduan ger Pwllheli ac yn blentyn canol o bump o blant.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2018

Osian yn Ennill cadair Eisteddfod yr Urdd

Enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd yw myfyriwr Prifysgol Bangor, Osian Owen.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2018