Newyddion Myfyrwyr: Gorffennaf 2018

Llawysgrifau Mostyn: Arddangosfa'r Canmlwyddiant

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2018

Gwirfoddolwr arbennig yn graddio

Mae cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gŵyr yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon ar ôl manteisio ar yr amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael yma.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2018

Wedi eu cysylltu drwy lwyddiant – mam a merch yn graddio

Bydd cyswllt un teulu o Garndolbenmaen â llwyfan Neuadd PJ yn parhau eleni, wrth i fam a merch raddio yn ystod yr wythnos a thrwy wneud hynny, ddilyn yn ôl troed y ferch a’r chwaer hynaf a raddiodd o’r Brifysgol yn 2016.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2018

Alumnus y Flwyddyn 2018

Bob blwyddyn mae Bwrdd Ymgynghorol Alumni Prifysgol Bangor yn ystyried ymgeiswyr ac yn cynghori'r Brifysgol ynglŷn â dyfarnu gwobr Alumnus y Flwyddyn. Yn ystod yr wythnos raddio roedd Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi mai Gwilym Rees-Jones yw Alumnus y Flwyddyn 2018.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2018

Dyfarnu medalau Cwmni'r Brethynwyr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor

Cyflwynwyd medalau Cwmni'r Brethynwyr i ddau fyfyriwr o Brifysgol Bangor. Mae Cwmni'r Brethynwyr yn un o gwmnïau lifrai hanesyddol dinas Llundain, ac sydd bellach yn sefydliad dyngarol. Bob blwyddyn mae Cwmni'r Brethynwyr, yn garedig iawn, yn rhoi dwy fedal i’w dyfarnu i fyfyrwyr ôl-radd nodedig. Mae'r gwobrau clodwiw hyn yn rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth myfyriwr i’r Brifysgol a’r gymuned.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2018

Holl rym y Gyfraith – gradd dosbarth cyntaf i Sioned ar ôl cofleidio profiadau newydd

Gyda'i golygon wedi eu gosod ar yrfa yn y maes cyfreithiol ers yr oedd yn ifanc iawn, mae myfyrwraig Prifysgol Bangor wedi dod gam yn nes at gyflawni ei breuddwyd.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018

O UMCB a JMJ i’r BBC – profiad prifysgol yn hyfforddiant perffaith i Liam

O bosib fod gwrandawyr BBC Radio Cymru wedi clywed llais newydd yn adrodd straeon newyddion y gogledd-ddwyrain yn ddiweddar. Mae Liam John Evans, 21 oed ac yn hannu o Hen Golwyn, bellach yn newyddiadurwr gyda’r orsaf genedlaethol, er nad yw eto wedi derbyn ei radd BA mewn Cymraeg a Hanes – digwyddiad a fydd yn siŵr o ennyn llawennydd mawr gan ei deulu a’i gyfeillion fore Mawrth 17 Gorffennaf.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018

Proffil Graddio: Arddun Rhiannon Arwel - BA (Anrh) Cymraeg

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018

Proffil Graddio: Elin Lloyd Wallace - BA Ffrangeg a Sbaeneg

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018

Proffil Graddio: Osian Wyn Owen – BA Cymraeg

Mae Osian Wyn Owen, 21, o’r Felinheli wedi derbyn gradd BA Cymraeg dosbarth-cyntaf a hefyd wedi ennill Gwobr John Morris-Jones am y canlyniad gorau yn y drydedd flwyddyn. Mae hefyd wedi ennill gwobr Dr John Robert Jones sy’n cael ei dyfarnu’n flynyddol i'r myfyrwyr gorau ar draws pob disgyblaeth yn y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018

Proffil Graddio: Teleri Wyn Davies - Y Gyfraith LLB

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018