Newyddion Myfyrwyr: Hydref 2018

Myfyriwr Prifysgol Bangor yn cyhoeddi llyfr arloesol ar hanes mwyngloddio lleol

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi lansio llyfr am y pyllau glo yng Nghwm Rheidol ac Ystumtuen ar ôl dechrau gweithio arno yn wyth oed.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018

Myfyrwyr yn creu gemwaith coeth

Mae dewis o emwaith coeth, sydd wedi ei ddylunio gan fyfyrwyr dylunio ym Mhrifysgol Bangor, bellach ar gael yn gyfyngedig i MOSTYN yn Llandudno.

Mae’r oriel celfyddyd gyfoes wedi gweithio gyda staff a myfyrwyr y cwrs gradd Dylunio Cynnyrch i greu eitemau o emwaith sydd yn gweddu i siop MOSTYN. 

Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2018

Myfyrwyr Bangor yn cynrychioli projectau Ymwneud â'r Gymuned yn Nhŷ'r Cyffredin

Rhoddwyd cyflwyniad gan grŵp o gynrychiolwyr Prifysgol Bangor i'r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Ieithoedd Modern yn Nhŷ'r Cyffredin yn San Steffan yn ddiweddar. Cadeiriwyd y digwyddiad gan Tonia Antoniazzi, AS Gŵyr, gydag aelodau seneddol eraill a chynrychiolwyr Tŷ'r Arglwyddi, y Cyngor Prydeinig, y Comisiwn Ewropeaidd, Goethe Institut, Sefydliad Confucius a sefydliadau a phrifysgolion eraill ledled y DU yn bresennol.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2018

Wythnos Am Wastraff #WAW18

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Prifysgol Bangor ei ail ‘Wythnos Am Wastraff ‘(WAW) erioed rhwng dydd Sadwrn 29ain Medi a dydd Gwener 5ed Hydref 2018. Lansiwyd yr ymgyrch i rannu syniadau a chodi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd defnyddio adnoddau yn effeithlon yn y Brifysgol ac yn Ninas Bangor, fel ein bod yn gallu lleihau ein heffeithiau amgylcheddol yn lleol ac yn genedlaethol ac i annogein myfyrwyr i fod yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol.

Gweithiodd y Lab Cynaliadwyedd mewn partneriaeth â Champws BywNeuaddau PreswylTai Myfyrwyr, Arlwyo, y Swyddfa RyngwladolCyngor GwyneddSefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff(CIWM) a British Heart Foundation Cymru (BHF) i redeg ystod o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous yn ystod yr wythnos WAW. Roedd y rhain yn cynnwys digwyddiad glanhau’r traeth, ymweliadau ymwybyddiaeth gwastraff mewn neuaddau myfyrwyr a lletyai preifat, sgyrsiau gyrfaoedd gwastraff, digwyddiad glanhau campws, diwrnod rhannu gwybodaeth, cwisiau ailgylchu, noson ddadlau, noson ffilm a noson crefftau eco, ynghyd a digwyddiadau eraill llai i rannu syniadau

Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2018

Ffair Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2018

Myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth busnes cenedlaethol

Mae myfyrwraig coedwigaeth o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth busnes cenedlaethol a gynhelir gan elusen sy'n cefnogi entrepreneuriaid sy'n fyfyrwyr neu'n raddedigion. Mae Jemima Letts, 21, wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Effaith Cymdeithasol Tata am ei busnes Tree Sparks, menter gymdeithasol sy’n bwriadu cychwyn trafodaeth ymhlith pobl ifanc 15-19 oed am ymwybyddiaeth amgylcheddol, yn ogystal ag amlygu bod swyddi o fewn y sector amgylcheddol yn ddichonadwy i bobl ifanc.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2018

Pedwar myfyriwr Prifysgol Bangor yn cwblhau 100 o gerddi mewn 24 awr

Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, bu pedwar myfyriwr o Brifysgol Bangor yn ymgymryd â her flynyddol Llenyddiaeth Cymru i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2018

Tree Sparks yn mynd o nerth i nerth

Mae cwmni eco-ymwybyddiaeth a sefydlwyd gan fyfyrwraig yn dilyn cyfnod o waeledd wedi derbyn sêl bendith gan rwydwaith busnes dylanwadol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018

Gwobr Fulbright yn gwireddu ymchwil Telyn Deires

Mae myfyrwraig o’r Unol Daleithiau newydd gychwyn ar radd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi iddi dderbyn Gwobr Fulbright uchel ei bri.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2018