Newyddion Myfyrwyr: Rhagfyr 2018

Dyfarnu PhD i Ymchwilydd 'Newid Wyneb Tlodi Bwyd'

Gadawodd David Beck yr ysgol yn 1999 gydag ychydig iawn o gymwysterau. Bu'n gweithio fel dyn llefrith a gosodwr brics yn ardal Bolton am 10 mlynedd tan, ynghyd â'i wraig a'i chwech o blant, symudodd i Fangor i astudio ar gyfer ei radd gyntaf. Heddiw, dyfarnwyd PhD mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol i David gan Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018

Myfyrwraig Bydwreigiaeth y Flwyddyn yn graddio

Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi gwireddu ei breuddwyd yr wythnos hon, drwy raddio ym maes Bydwreigiaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018

Seremoni Raddio'r Gaeaf Prifysgol Bangor

Dyfarnwyd graddau i dros 500 o fyfyrwyr yn seremonïau graddio gaeaf Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018

Myfyrwyr yn gwirfoddoli i blannu cannoedd o goed yn Eryri

Mae myfyrwyr o Brifysgol Bangor wedi plannu cannoedd o goed fel rhan o broject bywyd gwyllt cyffrous gyda busnes twristiaeth yn Eryri.

Mae'r grŵp, o Gymdeithas Myfyrwyr Coedwigaeth Bangor (BFSA), yn gobeithio y bydd y coed newydd yn gwella tirwedd byd-enwog Dyffryn Ogwen, ger Bethesda.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2018

Gwneud ei farc ar restr fer y British Education Awards

Mae Mark Barrow, a raddiodd o Brifysgol Bangor yn gynharach eleni, wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr y British Education Award (BEA). Mae’r Gwobrau hyn yn hybu arbenigedd o fewn y gyfundrefn addysg ym Mhrydain ac yn dathlu unigolion sydd wedi rhagori o fewn y system addysg yn y DU.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018

‘Bake-off’ ar gyfer elusen

Yn ddiweddar bu myfyrwyr Seicoleg Prifysgol Bangor yn cynnal cystadleuaeth ‘bake-off’ i godi arian i Gwynedd & Môn Headway, sefydliad dielw sy'n cynorthwyo goroeswyr niwed i'r ymennydd a'u teuluoedd/gofalwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2018

Creadigrwydd hynod – cyhoeddi chwe llyfr mewn tri mis!

Rhwng mis Medi a mis Tachwedd eleni mae staff a myfyrwyr Ysgol y Gymraeg wedi cyhoeddi cyfanswm o chwe chyfrol o ysgrifennu creadigol - yn nofelau, storïau byrion a chyfrolau o farddoniaeth – gan ychwanegu at enw da’r Ysgol ym maes ysgrifennu creadigol.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2018

Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor

Bob blwyddyn, mae Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr talentog ym maes chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio gradd mewn unrhyw bwnc.

Dyfernir yr Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a llwyddiant mewn chwaraeon. Eu pwrpas yw helpu myfyrwyr dawnus o safon uchel i gyfuno eu hastudiaethau academaidd a’u perfformiad chwaraeon i'w cynorthwyo i gyflawni eu llawn botensial.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2018