Newyddion Myfyrwyr: Ionawr 2019

Gwobr gyrfa cynnar o bwys yn cael ei ddyfarnu i fymyrwraig PhD

Myfyriwr PhD o Brifysgol Bangor yw'r ferch gyntaf i ennill gwobr ryngwladol am ei gwaith rhagorol ym maes gwaddodeg môr.

Enillodd Megan Baker WOBR YMCHWIL RICHARD W. FAAS yr International Association of Sedimentologists a gwobr ariannol o €2000. Dyfernir gwobr Faas bob dwy flynedd i ymchwilydd ar ddechrau eu gyrfa.  Dyma hefyd y tro cyntaf i'r wobr hon gael ei rhoi i fyfyriwr PhD.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2019

Myfyriwr PhD Seicoleg yn dawnsio ei PhD mewn cystadleuaeth ryngwladol

Mae myfyriwr PhD Seicoleg ym Mrifysgol Bangor, Kohinoor Darda, wedi cofrestru ar gyfer cystadleuaeth ryngwladol sy'n rhoi cyfle iddi egluro maes ymchwil ei PhD.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2019

Diwrnod Fenwm Prifysgol Bangor yn denu rhai o brif arbenigwyr y maes

Fe wnaeth pobl o bob cwr o'r byd sy'n ymddiddori ym maes tocsinau deithio i Ogledd Cymru i ddigwyddiad blynyddol a drefnwyd gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor.

Ymunodd academyddion blaenllaw, arbenigwyr rhyngwladol a seren deledu â dros gant o bobl ar gyfer y gynhadledd Diwrnod Fenwm unigryw ym Mangor i drafod tocsicoleg a rhywogaethau gwenwynig.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019

Gwasanaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i'w gynnal ym Mhrifysgol Bangor

Cynhelir gwasanaeth i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2019 yn Neuadd Prichard-Jones, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor rhwng 10.30 ac 11.30 o'r gloch y bore, ddydd Llun 28 Ionawr.

Thema gwasanaeth eleni yw 'Torn from Home' a bydd yn cynnwys cerddoriaeth a darlleniadau gan ysgolion lleol, aelodau o'r gymuned leol a'r cyngor lleol, Undeb y Myfyrwyr, y Tîm Caplaniaeth, a staff y brifysgol.

Cynhelir y gwasanaeth, sydd am ddim ac yn agored i'r cyhoedd, yn Neuadd Prichard-Jones ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau a bydd lluniaeth ysgafn ar gael wedi'r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2019