Newyddion Myfyrwyr: Mai 2019

Eidales o’r Wyddgrug yn cipio Medal y Dysgwyr

Francesca Elena Sciarrillo o’r Wyddgrug sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019. Fe’i gwobrwywyd mewn seremoni ar lwyfan prifwyl yr Eisteddfod heddiw (Dydd Mawrth, Mai 28).

Graddiodd Francesca, 23, gydag MA mewn Llenyddiaeth Saesneg yn 2018, ac mae hi nawr yn brentis graddedig mewn Marchnata. Hi yw’r unig berson o’i theulu sy’n siarad Cymraeg, ac Eidaleg yw ei theulu i gyd.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2019

Sbarduno mentergarwch myfyrwyr gyda chymorth Santander

Mae myfyrwyr entrepreneuraidd Prifysgol Bangor bellach yn medru derbyn cefnogaeth estynedig gan Brifysgolion Santander, wrth i’r Brifysgol lansio rhaglen Sbarduno Menter Santander (SEA).

Mae SEA yn darparu cyfle unigryw i fyfyrwyr Prifysgol Bangor ac yn annog y rhai hynny sy’n arddel ysbryd o fentergarwch i ddefnyddio’u sgiliau a’u huchelgais i gychwyn busnesau yn y rhanbarth.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2019

Gwobr Goffa Llew Rees 2019

Mae'r Brifysgol wedi dyfarnu ei gwobr flynyddol am lwyddiant ym maes y campau, Gwobr Goffa Llew Rees, i Theo Schoebel, am flwyddyn eithriadol o lwyddiannau Karate ar lwyfannau domestig a rhyngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2019

Dathliad Cyflogadwyedd!

Llongyfarchiadau mawr i Claire Hodgkinson, Astudiaethau Plentyndod a Ieuenctid, Blwyddyn 3, ar ei henwebiad ar gyfer gwobr Cyflogadwyedd. Da Iawn Claire!

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2019

Dathliad Cyflogadwyedd 2019

Cynhaliwyd Dathliad Cyflogadwyedd yn Pontio ar nos Fawrth, Ebrill 30ain i longyfarch ac arddangos llwyddiannau myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor a chynlluniau interniaeth y Brifysgol, ac wedi arddangos ymrwymiad rhagorol i ddatblygu eu cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2019

Llwyddiant a chynabyddiaeth i Aelwyd JMJ

Mae Aelwyd John Morris-Jones, cymdeithas gorawl neuadd breswyl myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol, wedi ennill gwobr genedlaethol yng ngwobrau’r National Societies Awards 2019. Dyfarnwyd tlws y ‘Best Arts Society’ i’r gymdeithas mewn seremoni ym Manceinion yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2019