Newyddion Myfyrwyr: Gorffennaf 2019

Gwella Dygnwch! Mae niwro-adborth EEG yn gwella perfformiad beicio

Mae Francesca Mottola, ymchwilydd PhD o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor, wedi ennill yr ail wobr yng ngwobrau Ymchwilwyr Ifanc yng Nghyngres Ryngwladol FEPSAC am ei gwaith arloesol ar berfformiad niwro-adborth ac ymarfer corff. 

Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2019

Ymchwil i ailgyflwyno'r Lyncs yn ennill gwobr myfyriwr y Deyrnas Unedig

Dyfarnwyd Gwobr Myfyriwr Meistr y Flwyddyn gyntaf y Deyrnas Unedig i fyfyriwr y mae ei ymchwil wedi gwneud newyddion cenedlaethol a rhyngwladol gan wefan FindAPhD.

Cynhaliodd Thomas Ovenden, sydd ar hyn o bryd yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Stirling, ei MSc mewn Coedwigaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor. Roedd ei broject ymchwil meistr ar botensial ailgyflwyno'r lyncs Ewrasiaidd, rhywogaeth sydd wedi diflannu ym Mhrydain ers dros 1,000 o flynyddoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2019

A fydd Ellie yn y ras?

Mae Ellie Frost, sy’n fyfyriwr peirianneg electronig, yn mynd i Silverstone fory (20 Gorffennaf) am ddiwrnod bythgofiadwy. Bydd Ellie’n mynychu digwyddiad unigryw yn Silverstone gyda swyddogion gweithredol Santander a ffigurau amlwg o’r byd rasio ceir.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019

Llunio cais i Fangor yn Benderfyniad dosbarth-cyntaf i Rebecca

Wrth ddarllen drwy ei negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, gwelodd Rebecca Holian gyfle a newidiodd gwrs ei bywyd a'i galluogi i wireddu breuddwyd.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019

Mared – o arwain y genedl ar FFIT Cymru i arwain dosbarth!

Mae myfyriwr a ysbrydolodd y genedl fel arweinydd ar y gyfres boblogaidd FFIT Cymru yn graddio o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yr wythnos hon.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019

Proffil Graddio: Gwenlli Thomas

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019

Proffil Unigolyn sy'n Graddio: Emma Watson

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019

Grym llesol y gân yn gyrru llwyddiannau Alistair

I Alistair O’Mahoney, 21 oed ac o Gastell Nedd, roedd dewis astudio Cerddoriaeth yn y brifysgol yn gam cwbl naturiol iddo. Yn perthyn i deulu cerddorol, bu’n derbyn gwersi piano o oed cynnar a bu hefyd yn aelod o fand pres ei sir, gan chwarae ger un o gofgolofnau mwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf, y Menin Gate, ar safle brwydro Ypres yn ystod un taith dramor â’r band.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2019

Jessica yn trosi ei hangerdd dros chwaraeon yn ymchwil rygbi

Mae myfyrwraig a ymgeisiodd i astudio ym Mhrifysgol Bangor drwy wasanaeth UCAS Extra, a hynny ar ôl newid ei dewis faes astudio, yn graddio heddiw gydag anrhydedd Dosbarth Cyntaf.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2019

O lawr y siop i uchelfannau ymchwil â phlant

Bu mynd i’r brifysgol wastad yn freuddwyd gan Claire Hodgkinson ond, ar ôl cwblhau ei arholiadau Lefel A dros ugain mlynedd yn ôl, ni allai weld llwybr gyrfa yn ffurfio o’i blaen, felly, yn hytrach na dewis maes pwnc ar fympwy i’w ddilyn am dair blynedd, penderfynodd ymuno â rhaglen rheoli yn y sector mân-werthu.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2019

Proffil Graddio: Claire Golding

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2019

Proffil Graddio: Lleucu Myrddin

Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2019

'Tîm Bangor' yn disgleirio ar y llwyfan codi pwysau yn Samoa

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn perfformio'n syfrdanol ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau'r Gymanwlad yn Samoa.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2019

Myfyriwr o Brifysgol Bangor ar restr fer 'Myfyriwr PhD y Flwyddyn' mewn gwobrau newydd i ôl-raddedigion

Mae un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Ashleigh Johnstone, o Douglas, Ynys Manaw, wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol newydd.

Roedd Ashleigh ymhlith dros 140 o fyfyrwyr PhD a enwebwyd ac mae ar y rhestr fer yn y dosbarth Myfyriwr PhD y Flwyddyn yn y gwobrau gan FindAMasters.com a FindAPhD.com.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019

Prifysgol Bangor yn un o'r goreuon yn y DU o ran boddhad myfyrwyr

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Bangor wedi ei rhestru yn y 10 uchaf o Brifysgolion anarbenigol y DU, yn ôl yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS) diweddaraf.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2019