Newyddion Myfyrwyr: Hydref 2019

Gŵyl yn arddangos ffilmiau byrion newydd

Bydd gŵyl ffilmiau mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor yn cynnal prynhawn yn arddangos ffilmiau byrion Ewropeaidd newydd gan wneuthurwyr ffilmiau ifanc.

Bydd y dangosiadau gan Ŵyl Ffilm Wicked Wales a British Film Institute Future Shorts yn cael eu cynnal ym Mhontio ddydd Mercher nesaf 23ain, 1 pm-5pm.

Bydd y dangosiadau yn cynnwys ffilmiau byrion rhyngwladol gan gynnwys rhaglenni dogfen, ffuglen ac animeiddio. Mae'r digwyddiad yn agored i fyfyrwyr a'r cyhoedd ac mae tocynnau am ddim ar gael yma.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2019

Prifysgol Bangor yn agor cae 3G newydd ar safle Treborth

Gerbron staff Prifysgol Bangor, clybiau’r Undeb Athletau, cynrychiolwyr timau lleol a chyrff cenedlaethol, agorwyd cae chwarae newydd sy’n mabwysiadu’r dechnoleg 3G fodern yn ddiweddar (Hydref 16).

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019

Airbus, Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn dechrau partneriaeth sgiliau newydd

Gwnaeth dri Phrentis Gradd yn Airbus ddechrau'r rhaglen Gwyddor Data Cymhwysol newydd gyda Phrifysgol Bangor a'i phartner cyflenwi, Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2019

Myfyriwr Bangor yn cystadlu am Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor yn cystadlu i ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2019.

Bydd Cai Fôn Davies, 19, o Fangor sy’n fyfyriwr yn ei ail flwyddyn yn astudio Cymraeg a Hanes, yn cystadlu Nos Wener, Hydref 11eg yn Neuadd Goffa’r Barri.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2019

32 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn cyrraedd copa Kilimanjaro er budd elusen Mind

Ar ôl blwyddyn o ddod i adnabod ei gilydd ac ymarfer, fe wnaeth grŵp o 32 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor gyrraedd copa mynydd Kilimanjaro gyda'i gilydd ychydig ar ôl codiad haul ar y 9ed o Fedi.

Roedd y daith lafurus hon i fyny mynydd uchaf Affrica, sydd 5,895 metr uwch lefel y môr, er budd yr elusen iechyd meddwl Mind ac mae'r tîm hyd yma wedi codi bron i £100,000.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019

Myfyrwraig greadigol yn rhyddhau record elusennol

Mae Aly Shields, sy'n ofalwraig ac yn fyfyrwraig hŷn o Landudno, wedi rhyddhau record er budd PANS PANDAS UK, elusen sy'n codi ymwybyddiaeth am gyflyrau anghyffredin sy'n aml yn arwain at gamddiagnosis i'r bobl dan sylw, ac sy'n cefnogi'r bobl hynny a'u teuluoedd.

Mae'r gân Warriors gan Aly ar gael ar iTunes a Google Play am $1.29 neu oddeutu £1 o dan label PANS PANDAS UK.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2019

Grŵp TAR ODA yn cynnal gwerth 2 ddiwrnod o weithgareddau

Pob blwyddyn mae ein grŵp TAR ODA yn cynnal gwerth 2 ddiwrnod o weithgareddau ar gyfer y ddau ddosbarth hŷn o Pendalar – Dosbarth Foryd a Dosbarth Menai.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2019