Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Newyddion Myfyrwyr

Newyddion Myfyrwyr: Mehefin 2020

Menter trwy Ddylunio yn mynd yn ddigidol ac yn ffynnu yn ystod cyfnod anodd

Roedd rhaglen amlddisgyblaethol Menter trwy Ddylunio Prifysgol Bangor yn edrych ychydig yn wahanol eleni. 

Mae'r her yn dod â myfyrwyr ynghyd o saith Ysgol a meysydd pwnc o fewn y Brifysgol i weithio gyda'i gilydd mewn timau dros gyfnod o 10 wythnos. Bu timau eleni yn ymateb i friffiau yn y byd go iawn a osodir gan fusnesau sy'n bartneriaid, sef y cwmni halen môr o Ynys Môn, Halen Môn, a'r gwneuthurwr offer dringo DMM yn Llanberis.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2020

Ymchwil israddedig wedi'i gyhoeddi mewn cyfnodolyn gwyddonol

Mae James Edwards wedi gweld ei waith traethawd hir blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei gyhoeddi yn Acupuncture in Medicine.

Fe wnaeth James, sydd bellach yn 23 ac yn astudio deintyddiaeth, ymchwilio i effeithiolrwydd aciwbigo ar gyfer poen nerfol yn y wyneb. Cymharodd ganlyniadau triniaeth ar gyfer aciwbigo gyda therapi cyffuriau a llawfeddygaeth. 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2020

Y dewis gwyrdd

Mae nifer gynyddol o bobl ifanc yn awyddus i leihau eu hôl troed amgylcheddol, a gall y fyfyrwyr hynny sy’n chwilio am brifysgol werdd fod yn sicr eu bod yn astudio mewn prifysgol sydd ar y brig yn fyd eang yn ei hymrwymiad i ailgylchu a chynaladwyedd, drwy ddewis astudio ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Prifysgol Bangor yn seithfed yn y byd am ailgylchu a chynaliadwyedd,  yn ôl llinyn mesur Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ac mae’r coleg ar y bryn yn 10fed yn fyd eang am ei gwaith yn ôl y Green Metric World University Rankings.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2020