Beth sydd yn y pridd o dan ein traed?

Paul George, myfyriwr PhD.Paul George, myfyriwr PhD.Mae myfyriwr o Ganada, sydd â gwreiddiau Cymreig, yn torri tir newydd yn ei ymchwil i asesu beth yn union sy'n byw yn y pridd Cymreig o dan ein traed.

Mae Paul George, myfyriwr PhD sy'n astudio yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor a'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH), wedi cyhoeddi ei ymchwil heddiw (7 Mawrth 2019) yn Nature Communications.

Mae ymchwil Paul yn edrych ar y rhywogaethau lleiaf un, sy'n byw yn y pridd, gan gynnwys bacteria, ffyngau ac anifeiliaid. Mae ei waith yn rhoi Cymru ar y blaen o ran deall beth sy'n rheoli lle mae'r rhywogaethau microsgopig hyn yn digwydd ar draws y tirwedd ar raddfa genedlaethol. A dyna lawer o rywogaethau, oherwydd amcangyfrifir bod chwarter yr holl rywogaethau ar dir yn byw o fewn ein priddoedd. 

Pam mae priddoedd yn bwysig? Mae cyflwr pridd yn ddangosydd byd-eang ar gyfer dirywiad tir o fewn Amcanion Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae Cymru yn un o'r ychydig lywodraethau yn fyd-eang sy'n gwarchod priddoedd ar y lefel uchaf gan ei bod yn cynnwys cyflwr pridd fel un o'i '46 Dangosydd Cenedlaethol 'ar gyfer sicrhau datblygiad cynaliadwy, a chyflawni gofynion arloesol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. 

Pwysleisiodd yr Athro Bridget Emmett o CEH yr angen i wledydd eraill ddilyn arweiniad Cymru:

Mae'r tirlun lleol yn amlygu'r amrywiaeth o ddefnydd tir sy'n nodweddiadol o Gymru. Yn y blaendir, mae defaid yn pori a thir pori agored yn ymestyn i'r bryniau. Y tu ôl i Fethesda, gellir gweld planhigfeydd coedwigoedd, a thu hwnt mae mynyddoedd Eryri. Mae'r tirlun lleol yn amlygu'r amrywiaeth o ddefnydd tir sy'n nodweddiadol o Gymru. Yn y blaendir, mae defaid yn pori a thir pori agored yn ymestyn i'r bryniau. Y tu ôl i Fethesda, gellir gweld planhigfeydd coedwigoedd, a thu hwnt mae mynyddoedd Eryri. "Drwy gynnwys priddoedd fel dangosydd cenedlaethol ac olrhain y newid hwnnw dros amser, mae Cymru wedi pwysleisio sut mae pridd yn hollbwysig i gymaint o fuddion a gawn ni o'n tir. Ein nod yn y pen draw yw gwella ein dealltwriaeth o sut mae bioamrywiaeth pridd yn cefnogi iechyd y pridd yn gyffredinol ac mae'r gwaith hwn gan Paul yn gam mawr ymlaen. Am y tro cyntaf, rydym bellach yn deall y gwahanol reolyddion ar wahanol rywogaethau yn y pridd. "

Sut mae rhywun yn chwilio am organebau sy'n rhy fach i'w gweld, eu hadnabod a'u dosbarthu? Trwy ddefnyddio metabarcodio moleciwlaidd - sy'n golygu cymryd 'llond llaw o bridd' a phennu 'cod bar' DNA i bopeth a gynhwysir yn y sampl. Gall hyn gynnwys darnau DNA o rywogaethau sydd wedi bod yn y ddaear yn ddiweddar, yn ogystal ag adnabod unrhyw beth sy'n dal i fod yn bresennol. Yn ystod ymchwil Paul, nodwyd 100 miliwn o organebau pridd, gan gynnwys 29,690 o fathau o facteria a 7,582 o fathau o ffyngau.

Esboniodd Paul:

"Mae'r gangen hon o wyddoniaeth yn dal i ddatblygu ac mae'n cael ei defnyddio i archwilio bioamrywiaeth 'cudd' yn ein moroedd, ein hafonydd, a hyd yn oed yn y perfedd dynol.  Yma rydym wedi ei chymhwyso at ein pridd.  Mae'r dull gweithredu hwn yn tynnu sylw at yr amrywiaeth rhyfeddol o rywogaethau na allem eu gweld o'r blaen gan na fydd llawer o rywogaethau'n tyfu mewn sefyllfaoedd labordy gan ddefnyddio dulliau cyfredol. " 

"Er syndod i ni, cawsom amrywiaeth a nifer llawer mwy cyfoethog o rywogaethau microbaidd mewn priddoedd amaethyddol yn hytrach nag mewn coetiroedd, corsydd a thir cadwraeth. Nid ydym eto'n gwybod yn union pam fod hyn yn digwydd.  Gallai fod oherwydd bod amaethyddiaeth yn bresennol ar fathau o bridd sydd yn fwy addas i gynnal nifer fwy o rywogaethau, neu bod yr arferion rheoli a ddefnyddiwn mewn amaethyddiaeth yn creu cynefinoedd mwy amrywiol i wahanol rywogaethau fanteisio arnynt. 

Nematod, un o'r rhywogaethau microsgopig sydd yn y pridd. Plectus sp. sydd yma, wedi ei chwyddo  x 200. Nematod, un o'r rhywogaethau microsgopig sydd yn y pridd. Plectus sp. sydd yma, wedi ei chwyddo x 200. Dyma oedd gan oruchwyliwr PhD Paul, yr Athro Davey Jones yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol, i'w ddweud: 

"Mae'r gwaith hwn yn rhoi Cymru ar y blaen o ran deall, rheoli a gwarchod bioamrywiaeth pridd cyfoethog. Rydym yn adeiladu dealltwriaeth sylfaenol a gallwn symud ymlaen o'r fan honno wedyn i ofyn cwestiynau, megis pam bod yna fwy o gyfoeth mewn ardaloedd lle gwelwyd amrywiaeth gwael o blanhigion ac anifeiliaid yn hanesyddol, a sut i annog cyfoeth ehangach o rywogaethau mewn mannau eraill. "

Ychwanegodd Dr David Robinson (cyd-oruchwyliwr Paul yn CEH):

"Mae natur gryno Cymru yn ei gwneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer yr ymchwil hon. O fewn y genedl fach hon ceir ystod eang o wahanol ddefnydd tir, gan gynnwys rhostiroedd a chorsydd ucheldir, planhigfeydd coedwigoedd, a safleoedd tir âr, ac mae wedi ymrwymo i reoli ei hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy."

Cyllidir Paul George trwy'r Ganolfan STARS ar gyfer Hyfforddiant Doethurol. Mae ei waith yn rhan o Raglen Monitro a Gwerthuso Glastir (GMEP). Cyllidwyd GMEP gan Lywodraeth Cymru i asesu effeithiau eu cynllun amaeth-amgylcheddol diweddar, Glastir, ac fe'i harweinir gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) mewn cydweithrediad â phrifysgolion, canolfannau ymchwil cyhoeddus, ymgynghoriaethau gwyddonol a chyrff gwirfoddol.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2019