Enwebiad Ffresh i fyfyriwr

Mae “Not” sydd wedi ei gyfarwyddo gan John Evans wedi cael ei enwebu am y Ffilm Ffuglen Orau a’r Ffilm Iaith Gymraeg orau yng Ngwobrau Ffresh 2013. Mae myfyrwyr a graddedigion eraill wedi cymryd rhan yn y cynhyrchiad, yn cynnwys Dewi Fôn Evans, Marty Hughes, Dan Hogg, Ali Brabbs, Michella Cortéz, Sera Mai Williams, Mathew Hughes a Dave Clarke.

Llongyfarchiadau mawr i bawb gan yr Ysgol. Mwy o wybodaeth yma:

http://ffresh.com/cy/awards/shortlist/

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2013