Kate 'fentrus' yn ennill gradd dosbarth cyntaf

Kate Maura JonesKate Maura JonesMae myfyriwr hŷn o Brifysgol Bangor, sydd wedi dilyn llwybr gwahanol i'r arfer yn ei bywyd a'i haddysg, yn teimlo ei bod wedi 'cyflawni rhywbeth o'r diwedd' ar ôl graddio ym Mhrifysgol Bangor.

Graddiodd Kate Maura Jones, 28, o Lanberis gyda BA dosbarth cyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol er iddi gael diagnosis o ddyslecsia a dyspracsia, ac er iddi orfod jyglo gofynion gwaith a phêl-fasged ar yr un pryd.

Gadawodd Kate yr ysgol yn un ar bymtheg oed ac aeth yn syth i weithio. Penderfynodd un diwrnod ei bod am adael Prydain a theithio i Awstralia ar ei phen ei hun. Ar ôl treulio dwy flynedd yn gweithio ac yn teithio yn Awstralia, penderfynodd ei bod am fynd i brifysgol.

Gan ei bod wedi gadael yr ysgol yn un ar bymtheg oed, roedd Kate yn credu ei bod yn mentro wrth fynd i brifysgol. Roedd hi'n gwybod y gallai fod wedi cael marciau llawer gwell yn yr ysgol uwchradd, ond er ei bod wedi gwneud ei gorau glas, roedd Kate yn teimlo na fyddai byth yn cael marc uwch na gradd E/D. Pan ddechreuodd yn y brifysgol, penderfynodd gael ei sgrinio am anawsterau dysgu penodol. Daeth i'r amlwg yn gyflym iawn bod ganddi ddyslecsia a dyspracsia. Rhoddodd y diagnosis 'hyder academaidd' iddi gan ei bod yn gwybod y gallai ei marciau isel godi gyda chefnogaeth addas.

Meddai Kate: "Dechreuais gael cefnogaeth gan Ganolfan Dyslecsia Miles o ddechrau fy nghwrs.  Pennwyd tiwtor imi, Fiona Zinovieff, sydd wedi bod efo fi trwy gydol y tair blynedd. Mae cefnogaeth y ganolfan wedi bod yn wych, ac yn enwedig cefnogaeth Fiona. Mae ei dull addysgu a'i strategaethau dysgu wedi rhoi'r hyder imi ysgrifennu, hyder nad oedd gen i o'r blaen.

"Mae fy mhrofiad o addysg yn un cadarnhaol erbyn hyn. Rwyf wedi cael cymaint o brofiadau cadarnhaol o fod yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor. Rwyf wedi bod yn aelod o dîm pêl-fasged y merched trwy gydol fy nghwrs tair blynedd. Rhoddodd hyn ryddhad imi o waith academaidd o ddydd i ddydd, mae pawb angen anghofio eu haseiniadau am dipyn  a chael hwyl o bryd i'w gilydd! Mae pêl fasged bellach yn rhan bwysig iawn o'm bywyd, ac rwy'n bendant bod fy nghyd-chwaraewyr a'm hyfforddwr wedi bod yn allweddol i mi ganolbwyntio ar fy amcanion, ar y maes chwarae a thu hwnt. Roedd llawer o'm hamser yn mynd i chwarae pêl-fasged yn ystod fy astudiaethau, ond diolch i'r drefn, roedd manteision bod yn rhan o glwb mor wych yn fwy o lawer na'r anfantais o beidio â chael unrhyw amser rhydd.

"Gweithiais trwy gydol fy ngradd, nid oedd gen i lawer o ddewis. Roeddwn yn hyfforddwr yn Zip World Velocity, oedd yn wych, ond roedd rhaid imi dorri fy oriau yn ystod fy nhrydedd flwyddyn. Cafodd hyn ei adlewyrchu yn fy marciau, gan fod cyfartaledd fy marciau wedi codi o 69% i 81%.

Roedd dysgu strategaethau newydd i oresgyn anawsterau dyslecsia/dyspracsia a rheoli amser yn anodd yn aml, ond bu pêl-fasged yn gymorth imi i roi rhywfaint o strwythur i'r diwrnod. Roedd astudio yn y brifysgol fel swydd i mi. Roeddwn yn y llyfrgell neu mewn man dysgu erbyn 9 o'r gloch bob bore, a byddwn yn gadael tua 5 neu 6 o'r gloch i fynd i ymarfer pêl-fasged. 

"Mae'r staff yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas wedi bod yn hollol wych. Mae pob un o'r darlithwyr rwyf wedi eu cael wedi buddsoddi 100% yn eu myfyrwyr, a dyna beth sy'n ei gwneud yn ysgol mor wych.

"Yn y pen draw, hoffwn weithio ym maes gwrthderfysgaeth a/neu faes cudd-ymchwil. Mae'n sector eithaf anodd i gael mynediad iddo, gan fod cyflogwyr yn aml yn gofyn am gymwysterau penodol yn ogystal â phrofiad perthnasol. Ar hyn o bryd fy nghynllun yw gwneud gradd Meistr yn y Gyfraith a Throseddeg a gweld pa gyfleoedd fydd yn codi yn sgil hynny.

Fel dywedodd y diweddar Muhammad Ali, 'He who is not courageous enough to take risks, will accomplish nothing in life.’ Roeddwn yn mentro wrth ddod i'r brifysgol, ond mae'n bendant wedi bod yn werth mentro.  

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016