Llwyddiant Cyfryngau a Newyddiaduraeth Prifysgol Bangor yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn parhau

Unwaith eto mae Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor wedi cael canlyniadau gwych yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) 2016 a gyhoeddwyd heddiw.  

Daw'r canlyniadau o arolwg o oddeutu hanner miliwn o fyfyrwyr sy'n graddio o bob prifysgol yn y DU. Mae'r arolwg annibynnol blynyddol hwn yn rhoi'r adborth mwyaf cynhwysfawr ar brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad.

Enillodd rhaglen Newyddiaduraeth yr Ysgol sgôr perffaith o 100% am y drydedd flwyddyn yn olynol, gan gadw'i lle ar y brig yn y tabl pwnc.  A chafwyd mwy o newyddion da wrth i Astudiaethau'r Cyfryngau gael eu gosod unwaith eto yn y 10 uchaf yn y DU gan fyfyrwyr. Cafodd Ysgrifennu Dychmygus ym Mhrifysgol Bangor hefyd sgôr uchel am foddhad myfyrwyr ac fe'i gosodwyd ar y brig yng Nghymru.

 

"Rwyf yn falch iawn bod ein myfyrwyr mor gadarnhaol ynglŷn â'u profiad yma. Rwy'n credu bod y canlyniadau hyn yn adlewyrchu ansawdd ein myfyrwyr ac ymroddiad y staff yma yn yr Ysgol", meddai Eben Muse, Pennaeth yr Ysgol.  

Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2016