Myfyrwyr Bangor yn cynrychioli projectau Ymwneud â'r Gymuned yn Nhŷ'r Cyffredin

 Yn y llun o'r chwith i'r dde mae: Osian Evans; Tonia Antoniazzi AS; Hannah Jones and Rubén Chapela-Orri. Yn y llun o'r chwith i'r dde mae: Osian Evans; Tonia Antoniazzi AS; Hannah Jones and Rubén Chapela-Orri.Rhoddwyd cyflwyniad gan grŵp o gynrychiolwyr Prifysgol Bangor i'r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Ieithoedd Modern yn Nhŷ'r Cyffredin yn San Steffan yn ddiweddar. Cadeiriwyd y digwyddiad gan Tonia Antoniazzi, AS Gŵyr, gydag aelodau seneddol eraill a chynrychiolwyr Tŷ'r Arglwyddi, y Cyngor Prydeinig, y Comisiwn Ewropeaidd, Goethe Institut, Sefydliad Confucius a sefydliadau a phrifysgolion eraill ledled y DU yn bresennol.

Dywedodd Tonia Antoniazzi "Rwy'n hynod falch o gadeirio'r cyfarfod sy'n arddangos y gwaith rhagorol a wneir yng Nghymru i ennyn diddordeb ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol  i ddysgu iaith dramor".

Rhoddodd yr Athro Claire Gorrara (Prifysgol Caerdydd) gyflwyniad dan y teitl “How university projects can have a positive impact on MFL engagements in schools and the wider community: Wales shows the way", fel cyfarwyddwr academaidd y ddau broject Lwybrau at Ieithoedd Cymru a'r Project Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Modern Tramor. Gwnaed cyflwyniad gan Lucy Jenkins (Prifysgol Caerdydd), Meleri Jenkins (Prifysgol Caerdydd) a Rubén Chapela-Orri (Prifysgol Bangor) am y gwaith sy'n digwydd mewn prifysgolion ledled Cymru, yn ysbrydoli disgyblion i astudio ieithoedd a pharhau i addysg uwch. Rhoddodd y digwyddiad hwn gyfle hefyd i drafod yn ehangach y materion sy'n wynebu ieithoedd tramor ar draws y sector addysg ar hyn o bryd.

Meddai Paul Kaye, o'r Comisiwn Ewropeaidd: "Roedd yn gyfarfod llawn ysbrydoliaeth i'r Grŵp Hollbleidiol Seneddol am yr ymateb yng Nghymru i'r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n dewis ieithoedd mewn ysgolion, gan gynnwys y project Mentora gan Fyfyrwyr Ieithoedd Modern Tramor a'r cynllun Llysgennad Llwybrau Cymru."

Cafodd mentoriaid ieithoedd modern tramor, rhai sy'n cael eu mentora a Llysgenhadon Iaith o Brifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni gyfle i rannu eu profiad yn y projectau hyn. Roedd y myfyrwyr Osian Evans a Hannah Jones yn cynrychioli Prifysgol Bangor.

Mae Osian Evans yn fyfyriwr pedwaredd flwyddyn yn astudio'r Gyfraith gyda Ffrangeg, a bu'n gweithio fel Llysgennad Iaith Myfyrwyr ar gyfer Llwybrau Cymru ers iddo ddechrau ei radd ym Mhrifysgol Bangor. Mae eisoes wedi cyrraedd dros 20 o ysgolion yng ngogledd Cymru (consortiwm GwE) trwy ymweld â'u disgyblion, cadw blog am ei drydedd flwyddyn dramor, neu gymryd rhan mewn digwyddiadau a threfnir i ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.

Meddai: “Mae fy argraff gyffredinol o'r cynllun yn un cadarnhaol iawn. Mae'n braf iawn gallu siarad am bwnc sy'n annwyl i mi a gweld y canlyniadau. Yn ôl y ffurflenni rydym yn eu dosbarthu ar ddiwedd y sgyrsiau, nid ydym wedi cael effaith negyddol o gwbl. Mae bob amser wedi bod naill ai'n niwtral neu'n gadarnhaol.”

“Yn ystod un o'm sgyrsiau, roedd y disgyblion yn gofyn cwestiynau niferus ac roeddwn yn gwneud fy ngorau i ateb pob un ohonynt, ac un o'r disgyblion a ddywedodd nad oedd ganddo unrhyw ddiddordeb mewn ieithoedd oedd yn gofyn y cwestiynau mwyaf perthnasol. Yn ei ffurflen ar y diwedd, dywedodd y byddai'n bendant yn dewis iaith.”

“Roedd yn anrhydedd gweld a chymryd rhan yn y cyfarfod hwn a ddaeth â phobl o bob cwr o'r DU at ei gilydd i drafod dyfodol posibl ieithoedd ar lefel TGAU a Safon Uwch. Llwyddodd hefyd i adnewyddu fy ymrwymiad i'r rhaglen.”

Mae Hannah Jones bellach yn gwneud MA mewn Astudiaethau Cyfieithu, mae wedi bod yn Llysgennad Iaith Llwybrau Myfyrwyr ers ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor, ac roedd hi'n cadw blog ar ei thrydedd flwyddyn dramor. Bu’n fentor ieithoedd tramor modern yn ei phedwaredd flwyddyn, yn mentora disgyblion yn llwyddiannus yn Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol Syr Thomas Jones ar Ynys Môn. Eleni bydd yn mentora dwy ysgol arall fel Prif Fentor.

Meddai: “Pan gyrhaeddais Bangor gyntaf, doedd gen i ddim syniad beth oeddwn eisiau ei wneud yn y dyfodol, dim ond bod rhaid iddo fod yn gysylltiedig â fy niddordeb angerddol sef ieithoedd. Ar ôl gweithio gyda Llwybrau a Mentora, rwyf wedi cael cymaint o gyfleoedd gwych i ymwneud â disgyblion iau mewn trafodaethau am ieithoedd, a hyd yn oed gyda rhieni mewn nosweithiau trafod opsiynau. Rwyf wedi datblygu mwy o hyder a chyffro am ieithoedd nag yr oeddwn erioed wedi meddwl y byddai'n bosib.”

“Rwy'n credu bod y cynlluniau hyn yn wych! Roedd yn gyfle gwych i siarad â phobl na fyddech fel arfer yn dod i gysylltiad â nhw, a chynnig eich barn eich hun a gwrando ar safbwyntiau gwahanol. Mae'r projectau hyn yn effeithiol iawn. Maent yn dechrau deialog a hefyd yn cael pobl i feddwl am ieithoedd mewn ffordd newydd a gobeithio creu diddordeb cyffrous ynddynt. O'm profiad i, mae dim ond mynd a rhoi sgwrs am fy siwrnai iaith a'r sgiliau rydych yn eu datblygu trwy ddysgu ieithoedd yn ennyn diddordeb yn y disgyblion. Gallwch ei weld yn eu hwynebau.”

“Roedd hi'n wych gweld cymaint o bobl yn cefnogi ieithoedd yn y Grŵp Hollbleidiol Seneddol, yn gwrando ar ei gilydd ac yn creu cysylltiad. Roedd yn wych gallu dangos sut mae'r projectau wedi gweithio ac yn parhau i weithio. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle.”

Dywedodd Rubén Chapela-Orri, Cydlynydd Llwybrau Cymru yng ngogledd Cymru a Phrif Arweinydd Adrannol i'r project Mentora gan Fyfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern:

“Rwy'n credu y gellir egluro llwyddiant y projectau hyn gyda'r dull cydweithredol ac amlddisgyblaethol o hyrwyddo dysgu ieithoedd, yn ogystal â thrwy frwdfrydedd diddiwedd ein Llysgenhadon Iaith Myfyrwyr a'n Mentoriaid! Mae'n wych gweld bod cynlluniau fel y rhain yn cael eu portreadu fel enghraifft o arfer gorau nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yng ngweddill y DU. Nid yw disgyblion yng Nghymru fel arfer yn sylweddoli bod bod yn ddwyieithog yn cynnig mantais enfawr o ran dysgu ieithoedd eraill a bod yn fwy ymwybodol o'r hyn y mae bod yn ddinesydd byd-eang yn ei olygu. Roedd yn fraint ac anrhydedd mawr i gynrychioli'r rôl bwysig y mae Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â phrifysgolion a sefydliadau eraill, yn ei chwarae wrth newid dyfodol ieithoedd tramor modern yng Nghymru trwy ymwneud â'r gymuned, ac rwy'n teimlo'n hynod o falch o'n myfyrwyr Hannah ac Osian am gynrychioli eu gwaith rhagorol gydag ysgolion ar y diwrnod.”

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2018