Paul yn drist i adael Bangor

Mae  Paul James Davison, 21, o  Bury St Edmunds, Suffolk, a oedd yn graddio gyda gradd Feistr yn Sŵoleg wythnos yma, wedi ennill Gwobr Goffa Ian Herbert sydd yn cael ei rhoi i’r myfyriwr gradd feistr orau sy’n astudio Bioleg Gymhwysol.

Dywedodd Paul, sy’n gyn disgybl Ysgol Uwchradd St Benedicts: “Pan glywais fy mod wedi ennill Gwobr Goffa Ian Herbert roedd yn sioc ond roeddwn wrth fy modd. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o gwbl. Mae wedi bod werth yr holl ymdrech dros y blynyddoedd diwethaf.

“Fedrai ddim credu fy mod yn graddio yn barod, Mae’r pedair blynedd diwethaf wedi fflio! Mae’n teimlo’n rhyfedd gadael Bangor, dydi gadael ddim yn teimlo’n real eto! Ond rydw i yn edrych ymlaen at wneud PhD (gobeithio!)

Mae rhai o uchafbwyntiau Paul o’i amser ym Mangor yn cynnwys gwaith maes yn Gambia, Tenerife a Gran Canaria. Dywedodd Paul: “Wel, mae gwaith maes yn un o’r manteision o astudio Sŵoleg. Roedd y trip i Gambia yn fythgofiadwy gan mai dim ond unwaith roeddwn wedi bod dramor cyn hynny! Roedd ymweld ag Affrica yn anhygoel and yn gyfle gwych i weld bywyd gwyllt syfrdanol - roedd yr adar yn arbennig o brydferth. Y rhan gorau oedd gwylio adar o ganŵ yn nghors y Mangrove.

“Yn ystod fy amser yma mi wnes i hefyd wirfoddoli yng Ngerddi Botaneg Treborth ac yma y gwnes i gyfarfod Dick Loxton, academic wedi ymddeol. Mi wnaethom dreulio oriau yn siarad am sŵoleg, esblygiad ac athroniaeth. Heb gyfarfod Dick, dwi ddim yn credu y byswn wedi ennill y Wobr Goffa a fyswn i ddim yn gwneud ceisiadau i astudio PhD rŵan. Roedd ei gyfarfod yn bendant yn un o fy uchafbwyntiau - mae rhai pethau na allwch ddysgu mewn darlithoedd.”

Am ei gwrs, ychwanegodd: “Rydw i wedi bod â diddordeb mewn bywyd gwyllt erioed ac roeddwn yn gwylio adar pan oeddwn yn blentyn, felly roedd gradd mewn Sŵoleg yn ddewis naturiol. Mae reit eironig fy mod wedi ennill y Wobr Goffa oherwydd roeddwn yn casáu’r ysgol pan roeddwn yn iau a bioleg oedd fy mhwnc gwanaf. Rŵan dwi wrth fy modd yn darllen a Bioleg ydi fy mhwnc cryfaf.

“Rydw i wedi mwynhau gwneud fy nau brosiect ymchwil. Mae’n deimlad grêt gwneud rhywbeth does neb wedi gwneud o’r blaen.”

Am Fangor, dywedodd: “Roeddwn eisiau mynd i rywle oedd gyda chwrs da, oedd yn reit bell o adre ac oedd yn wanhaol i adre (h.y. ddim yn wastad!). Roedd Bangor yn ticio pob bocs ac ar ôl y Diwrnod Agored roeddwn wedi dotio! Roedd y cwrs yn swnio’n wych ac roedd yr ardal yn brydferth - roeddwn ar bigau i ddechrau astudio!

“Mae wedi bod yn fraint byw ym Mangor am bedair blynedd. Ar ôl ychydig, rydych yn cymryd yn ganiataol eich bod yn gweld mynyddoedd a’r môr o’ch drws ffrynt - ond rŵan dwi wedi gadael dwi’n gwerthfawrogi pa mor lwcus yr oeddwn i.

“Rydw i wedi gweithio ar ran y Brifysgol mewn ambell i Ddiwrnod Agored oherwydd mae’n gyfle i mi ddangos i bawb lle mor grêt ydi Bangor.”

Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2011