Yn ôl adroddiad, gellid creu ffrydiau incwm newydd wrth dyfu'n fasnachol blanhigion gwyllt sydd dan fygythiad o’u gor-gasglu

Sophie'n mesur deilenSophie'n mesur deilenEfallai bod dail palmwydd egsotig o goedwigoedd yn Belize, Canolbarth America,   sydd yn eich tusw Sul y Mamau eleni. Mae eu hallforio ar gyfer y diwydiant trefnu blodau yn bygwth parhad un planhigyn yn ei gynefin gwyllt ac mae'n enghraifft o un o lawer o fygythiadau o'r fath i glystyrau o blanhigion gwyllt.

Gor-hel yw un o’r prif fygythiadau i boblogaethau planhigion gwyllt o amgylch y byd. I oresgyn hyn, mae diddordeb cynyddol mewn tyfu cnydau rhywogaethau sy’n cael eu hel, gyda’r nod o leihau’r defnydd o boblogaethau gwyllt a gwella bywoliaethau pobl. Er mwyn gwireddu hyn, mae ar bobl angen y wybodaeth fel y gallant dyfu’r planhigion eu hunain.  Yn 2006, bu Gardd Fotaneg Belize yn hyfforddi ffermwyr lleol i dyfu’r rhywogaeth palmwydd fel rhan o Broject Menter Darwin gan y DU. Bernir y palmwydd egsotig i fod o dan fygythiad yn ei gynefin gwyllt. Mae hefyd y rhywogaeth bwysicaf yn economegol.

Deilen XatéDeilen XatéMewn astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor a Gerddi Botaneg Brenhinol Kew, gwelwyd bod hyfforddiant wedi bod yn fuddiol. Mae’r ymchwil, a gyhoeddir  gan PLoS ONE heddiw (14.3.12) yn dangos bod hyfforddiant wedi cyfrannu at wybodaeth dechnegol am feithrin xaté ac wedi newid ymddygiad pobl drwy eu hannog i amaethu’r rywogaeth sydd yn cael ei gor-gynaeafu.

Dywedodd prif awdur yr astudiaeth, Sophie Williams, o Brifysgol Bangor, “Mae’r xaté, neu ddail palmwydd, yn cael eu hallforio i Ewrop a'r Unol Daleithiau ar gyfer trefniadau blodau ac mae’n ddiwydiant yn werth miliynau o ddoleri. Gallai pobl Belize feithrin y rhywogaeth hon fel nad oes rhaid i’r holl gyflenwad i’r farchnad ddod o'r clystyrau gwyllt.”

Esboniodd Colin Clubbe o gerddi Kew, awdur arall o’r astudiaeth: “Roedd y rhaglen hyfforddi wedi dylanwadu ar ymddygiad drwy ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen i dyfu rhywogaeth newydd, ond roedd hefyd wedi cynyddu ffydd pobl yn eu gallu i dyfu rhywogaeth newydd. Mae hyn yn hanfodol i bobl  fynd ati i feithrin y planhigyn pwysig hwn.”

Sophie'n cyflweld â ffermwrSophie'n cyflweld â ffermwrBydd canlyniadau'r astudiaeth hon yn gymorth i’r gwaith o gynllunio rhaglenni hyfforddi ar gyfer annog amaethu rhywogaethau sy’n cael ei gor-hel. Mae’r ymchwilwyr yn galw am i raglenni hyfforddi yn y dyfodol ystyried darparu adnoddau i helpu pobl i dyfu cnydau newydd, fel hadau neu blanhigion ifainc, yn ogystal â darparu sgiliau technegol sydd eu hangen i feithrin rhywogaethau sy’n cael eu gor-gynaeafu.

Cafodd Sophie ei ddenu i astudio ym Mhrifysgol Bangor oherwydd y lleoliad ac mae wedi aros oherwydd   'cymuned a ffordd o fyw gwych gogledd Cymru.' Ychwanegai y bydd yn anodd gadael ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl gorffen ei Ddoethuriaeth.

Graddiodd Sophie mewn Ecoleg o Fangor yn 2006, yn ystod haf 2006, bu'n gweithio ar gynllun busnes ac ymgyrch i gadw Gardd Fotaneg Treborth fel gardd fotaneg, bu’n un o sylfaenwyr y digwyddiad llwyddiannus Botanical Beats. Bu'n gweithio yng Ngardd Fotaneg Treborth fel rheolwr prosiect ar gyfer project 'Planhigion a Phobl' sy’n cysylltu pobl yn y gymuned leol gyda phlanhigion a materion cadwraethol. Ar ôl cyfnod fel rheolwr prosiect yng Nghanolfan Amgylcheddol Moelyci, cafodd Sophie ei derbyn yn Imperial College, Llundain  i astudio gradd MSc mewn Gwyddoniaeth Cadwraeth. Bu’n cydweithio â Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew ar gyfer ei phroject MSc a threuliodd dau fis yn mapio planhigion endemig y Caribî. Mae hi wedi cynnal y cyswllt hwn gyda Kew ar gyfer ei PhD, gyda dau oruchwyliwr ym Mangor ac un yn Kew.

Mae ei PhD yn canolbwyntio ar sut y gall gerddi botaneg gael eu defnyddio'n effeithiol i gyfathrebu cadwraeth a hyrwyddo amaethu a chynaeafu cynaliadwy o rywogaethau planhigion sy’n cael eu gor-gynaeafu. Mae ei hymwneud â Threborth wedi cael effaith enfawr ar ei dewis o bwnc PhD. Ar gwblhau, bydd yn graddio gyda PhD mewn ' Gwyddoniaeth Cadwraeth '.

Cyllidwyd yr ymchwil gan Brifysgol Bangor, yr Ymddiriedolaeth Bentham-Moxon, Kew a’r Gymrodoriaeth Ryngwladol dros Adnoddau Naturiol.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2012