Gwasanaethau yn ystod Pandemig COVID19

Mewn ymateb i gyfarwyddebau gan y Brifysgol, ar 23 Mawrth 2020, byddwn yn addasu ein darpariaeth gwnsela er mwyn gallu darparu cymaint o help a chefnogaeth i chi ag y gallwn o bell dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Fel o'r blaen, byddwch yn dal i allu cael mynediad at ein holl adnoddau ar-lein trwy ein tudalennau gwe. Mae gennym rai tudalennau ychwanegol yno hefyd, am ffynonellau cefnogaeth allanol eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Rydym eisoes wrthi'n gwneud ein darlithoedd Meithrin Gwytnwch ar gael ar-lein, fel y byddwch yn gallu cael mynediad at y rhain pryd bynnag y dymunwch.

Ein cynllun yw symud i system sesiynau cefnogaeth ar y ffôn ar gyfer unrhyw fyfyriwr cyfredol ym Mhrifysgol Bangor sy'n cysylltu â ni. Os bydd adnoddau'n caniatáu, byddwn yn cynnig sesiynau cefnogaeth dros y ffôn tua 10-20 munud o hyd, y gellir eu harchebu. Bydd y rhain naill ai gyda'r cwnselydd ar ddyletswydd, neu os oes gennych gyswllt eisoes ag un o'r tîm cwnsela, gyda nhw.

Pwrpas y sesiynau cefnogaeth hyn yw cynnig help, cefnogaeth a gwybodaeth, ac ni fyddant yn gwnsela nac yn therapi ffurfiol. Byddwn fel o'r blaen yn gwneud nodiadau cryno o'r cyswllt sydd gennym â chi, ac yn storio'r data hwn yn y ffordd arferol trwy ein cronfa ddata gwasanaeth cwnsela diogel. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw gwnselydd yn gallu gweld y nodiadau hyn os bydd angen; er enghraifft, os oes gennych sesiwn cefnogaeth arall ar y ffôn.

I archebu sesiwn, anfonwch e-bost atom yn y cyfeiriad arferol - counselling@bangor.ac.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i drefnu amser i chi.

Fe'ch anogir hefyd i ofyn am gymorth a chyngor gan eich meddyg teulu eich hun yn ystod y cyfnod yr ydym yn cynnig y system gefnogaeth hon.

Byddwn yn ceisio rhoi gwybod ichi am unrhyw newidiadau i'r system hon - os ydych yn ansicr edrychwch ar ein tudalennau gwe. Diolch yn fawr iawn am eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn yr amseroedd hyn na welwyd mo'u tebyg o'r blaen.

26.03.20