Cwestiwn 2: Beth os ydw i i ffwrdd o'r campws, er enghraifft, ar leoliad, yn astudio dramor neu'n dysgu o bell?
- Er ei bod yn well cynnal sesiynau wyneb yn wyneb, mae apwyntiadau trwy gyfrwng Lync / Skype ar gael i fyfyrwyr ar leoliad neu ar gyrsiau dysgu o bell y mae'r math hwn o fynediad wedi ei argymell yn eu Hadroddiad Asesu Anghenion Astudio (SNAR) / wedi ei gadarnhau gan eu Corff Cyllido. Yn ystod y sesiynau hynny, bydd eich tiwtor yn darparu cyngor ar ddatblygu'r meysydd a nodwyd yn eich Cynllun Dysgu Unigol a bydd yn anfon adnoddau atoch i atgyfnerthu'r pwyntiau a drafodwyd.
- Yn ogystal, a lle nad yw'n bosibl cael sesiwn wyneb yn wyneb na defnyddio Lync / Skype, i'r myfyrwyr hynny nad ydynt ar y campws ac sy'n dymuno datblygu eu harddull ysgrifennu, gallai apwyntiadau dros e-bost fod yn bosibl os ydynt yn cael eu hargymell yn eu SNAR / wedi eu cadarnhau gan eu Corff Cyllido. Gofynnir i chi anfon sampl o'ch gwaith ysgrifenedig dros e-bost fel y gall eich tiwtor eich helpu i adnabod y mathau o wallau yr ydych yn eu gwneud a sut y gellir eu cywiro. Gan ddefnyddio blychau sylwadau, bydd eich tiwtor yn rhoi sylwadau ar wallau gramadeg, atalnodi a sillafu, ond ni fydd yn newid y testun nac yn rhoi cyngor ar gynnwys eich gwaith.
- Ar ôl y sesiynau trwy Skype / e-bost, bydd gofyn i chi lofnodi am y gefnogaeth a dderbyniwyd naill trwy gadarnhau trwy e-bost neu argraffu'r ffurflen, ei llofnodi a'i dychwelyd i'r Gwasanaeth Dyslecsia.
08.17