Gwybodaeth i Staff
Mae’r Gwasanaethau Myfyrwyr yn darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau ymgynghorol i bob aelod staff sy’n darparu gofal bugeiliol i fyfyrwyr, yn cynnwys uwch diwtoriaid a thiwtoriaid personol, gweinyddwyr ysgol, staff y neuaddau a wardeiniaid, yn ogystal â staff diogelwch a staff glanhau. Yn aml iawn, y bobl hyn yw’r pwynt cyswllt cyntaf i fyfyrwyr mewn argyfwng.
Cysylltwch â’n gwasanaeth yn uniongyrchol trwy’r taflen gwasanaeth hwn neu ewch i’n gwefan am ragor o fanylion am y gwasanaethau rydym yn eu darparu.
Mae gennym hefyd ddogfennau canllaw ar amrywiaeth eang o faterion y byddwch efallai’n dod ar eu traws
- Cyfathrebu â Rhieni a 3ydd Partïon
- Cyfrinachedd
- Ymgartrefu: Arweiniad i rieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr myfyrwyr newydd
Ceir hefyd nifer o brotocolau a gweithdrefnau i’ch helpu ymdrin â materion penodol
- Trefn terfynu astudiaethau
- Trefn Addasrwydd i Astudio
- Marwolaeth myfyriwr neu ddigwyddiad difrifol
- Polisi Beichiogrwydd a Mamolaeth Myfyrwyr
- Fyfyriwr sydd ar Goll
- Cod Ymarfer ar Ddarpariaeth Ddi-gymhwyster
Yn ogystal â’r uchod, mae gennym wybodaeth benodol i diwtoriaid personol ac uwch diwtoriaid
- Cod ymarfer gofal bugeiliol
- Cod ymarfer ar gyfer myfyrwyr anabl
- Canllawiau ar gyfer Tiwtoriaid Personol
- Canllawiau ar gyfer Uwch Diwtoriaid
Adnoddau
Darperir y pecyn e-ddysgu hwn gan y Charlie Waller Memorial Trust ac fe'i cynlluniwyd i roi'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i staff allu cynnig cymorth i fyfyrwyr a all fod â phroblemau iechyd meddwl. Cymeradwyir hyn yn benodol ar gyfer staff gyda chyfrifoldebau bugeiliol.
Ac mae ein cyhoeddiadau’n cynnwys:
- Gwasanaethau Myfyrwyr
- Cyngor Ariannol
- Gofal Iechyd Myfyrwyr
- Meddwl gadael? Meddyliwch eto
- Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr
- Myfyrwyr â Phrofiad Gofal
- Tîm y Gaplaniaeth
Cyfarfodydd cynnal
Cynhelir cyfarfodydd cynnal i Uwch Diwtoriaid a Thiwtoriaid Personol pan wneir cais.
Cysylltwch â:
Pennaeth Cynghori, Ail Lawr, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
Ffôn: 01248 388520
Ebost: cynghori@bangor.ac.uk
Datblygu Staff
Mae staff y Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnal sesiynau datblygu staff yn rheolaidd ar bynciau megis: sgiliau gwrando; datblygu sgiliau tiwtoriaid personol; ymdrin â sefyllfaoedd anodd; hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd ac addasiadau rhesymol yn yr amgylchedd dysgu ac addysgu.
Gellir teilwra sesiynau datblygu staff i gyd-fynd ag anghenion ysgolion unigol a’u cyflwyno ar adeg ac mewn lleoliad sy’n gyfleus i chi. Cysylltwch â ni ar 01248 382024 neu gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk am ragor o wybodaeth