Cefnogi’ch Datblygiad Cyflogadwyedd
Mae’r Brifysgol yn parhau i gynnig cymorth a chefnogaeth i chi i ddatblygu eich cyflogadwyedd a meddwl am gamau nesaf eich gyrfa. Boed hynny drwy gyfarfod Teams unigol gyda Ymgynghorydd Cyflogadwyedd i drafod eich CV neu ddiddordebau gyrfa, neu drwy ymuno yn rhai o’n gweminarau ar ystod eang o dopigau diddorol yn ymwneud a rheoli eich gyrfa. Mewngofnodwch i TARGETconnect i wneud apwyntiad neu archebu eich lle! Cofiwch hefyd am yr adnoddau ar lein sydd ar gael drwy’r Hwb Cyflogadwyedd i chi bori yn eich amser eich hun. Edrychwn ymlaen i’ch gweld yn fuan!
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2021