Grwpiau ysgrifennu ymchwil
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio am ailddechrau cynnal grwpiau ysgrifennu ymchwil yn Ionawr 2021 ac yn croesawu aelodau newydd.
Mae grwpiau ysgrifennu ymchwil yn ffordd ragorol o ddatblygu'r sgiliau a'r hyder sy'n angenrheidiol i wneud PhD. Mae’r grwpiau – heb fod yn fwy na chwe myfyriwr yr un – yn cyfarfod bob pythefnos i osod ac archwilio targedau, i drafod gwaith a ysgrifennwyd yn ystod a rhwng cyfarfodydd, ac i rannu profiadau a strategaethau. Er bod pob grŵp yn datblygu ei ffordd ei hun o weithio, mae'r grwpiau'n tueddu i lynu wrth gylch o archwilio-ysgrifennu-adborth (gweler y darlun isod).
Mae aelodaeth o'r grwpiau yn seiliedig ar anghenion yr ymchwilwyr ac yn gyffredinol mae'n arwain at aelodau'r grŵp yn cydweithio â myfyrwyr sydd ar yr un cyfnod yn eu prosiectau ymchwil. Nid yw’r grwpiau’n gyfyngedig yn unig i fyfyrwyr sydd wrthi’n ysgrifennu eu prosiect. Os oes gennych ddiddordeb ymuno â grŵp, dilynwch y ddolen hon a dywedwch wrthym am eich prosiect.
Os ydych chi’n astudio ar lefel israddedig ac yn chwilio am ffyrdd o ysgogi eich hun beth am ymuno gydag un o’n grwpiau astudio.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2021