Gweithdai Sgiliau Ysgrifennu ac Ymchwil
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal cyfres o ugain gweithdy rhyngweithiol sy’n agored i bob myfyriwr ar draws pob lefel astudio. Mae’r gyfres yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud ag astudiaethau academaidd ac ysgrifennu, gan gynnwys pynciau sy’n gysylltiedig ag ymchwil. Mae’r gweithdai yn seiliedig ar dasgau, sy’n eich galluogi i ddysgu trwy wneud a chwestiynu. Gallwch archebu eich lle ar-lein ac ar hyn o bryd rydym yn cymryd archebion ar gyfer y gweithdai canlynol:
- Ysgrifennu Dadl Academaidd
Dyddiad: 3/03/2021
Amser: 1:10-2:00 - Ysgrifennu Cynigion Ymchwil
Dyddiad: 3/03/2021
Amser: 3:10-4:00 - Osgoi Llên-ladrad
Dyddiad: 10/03/2021
Amser: 1:10-2:00 - Darllen ar gyfer eich Adolygiad Llenyddiaeth
Dyddiad: 10/03/2021
Amser: 3:10-4:00 - Aralleirio eich Ffynonellau
Dyddiad: 17/03/2021
Amser: 1:10-2:00 - Ysgrifennu eich Adolygiad Llenyddiaeth
Dyddiad: 17/03/2021
Amser: 3:10-4:00
I gael amlinelliad llawn o’r rhaglen ac i archebu eich lle, ewch i’n tudalen we rhaglen weithdai yma.
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yma i’ch helpu chi i wneud y gorau o’ch astudiaethau. Cliciwch yma i weld yr amrywiaeth o gefnogaeth astudio sydd ar gael i chi.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2021