Gweithdai Sgiliau Ysgrifennu ac Ymchwil
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio wedi bod yn cynnal cyfres o ugain gweithdy rhyngweithiol y semester hwn, sy’n agored i bob myfyriwr ar draws pob lefel astudio. Bydd pedwar gweithdy ym mis Ebrill, cyn cyfnod yr arholiadau. Mae’r gweithdai yn seiliedig ar dasgau, sy’n eich galluogi i ddysgu trwy wneud a chwestiynu. Gallwch archebu eich lle ar-lein ac ar hyn o bryd rydym yn cymryd archebion ar gyfer y gweithdai canlynol:
- Ysgrifennu Rhagarweiniadau
Dyddiad: 21/04/2021
Amser: 1:10-2:00 - Adran Drafodaeth Ymchwil: Nodweddion craidd
Dyddiad: 21/04/2021
Amser: 3:10-4:00 - Llwyddo gyda’ch Arholiadau
Dyddiad: 28/04/2021
Amser: 1:10-2:00 - Ysgrifennu Adran Drafodaeth Ymchwil
Dyddiad: 28/04/2021
Amser: 3:10-4:00
I gael amlinelliad llawn o’r rhaglen ac i archebu eich lle, ewch i’n tudalen we rhaglen weithdai yma.
Yn ogystal â’r gweithdy ‘Llwyddo gyda’ch Arholiadau’ uchod, gallwch hefyd bori trwy ein hadnoddau ar-lein yma i’ch helpu i ddechrau adolygu a rheoli straen arholiadau.
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yma i’ch helpu chi i wneud y gorau o’ch astudiaethau. Cliciwch yma i weld yr amrywiaeth o gefnogaeth astudio sydd ar gael i chi.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ebrill 2021